Israel yn cyhoeddi saib yn ei hymgyrch filwrol mewn rhannau o Gaza
Mae Israel wedi cyhoeddi y bydd saib "tactegol" yn ei hymgyrch filwrol mewn rhannau o Gaza, wrth i elusennau rybuddio bod Palesteiniaid yn llwgu yno ar raddfa eang.
Mae sawl llywodraeth yn y gorllewin wedi bod yn rhoi pwysau ar yr Israeliaid, wrth i'r weinyddiaeth iechyd sy'n cael ei rhedeg gan Hamas ddweud fod 127 o bobl wedi marw o ddiffyg maeth ers i'r rhyfel ddechrau.
Yn ôl Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) bydd "coridorau dyngarol" yn cael eu gosod ar gyfer y Cenhedloedd Unedig er mwyn "gwrthbrofi'r honiad ffug am newyn bwriadol."
Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Israel wedi caniatáu i fwyd a diod gael eu gollwng o'r awyr, ond yn ôl elusennau, dyw'r cyflenwadau hynny ddim yn ddigonol, gyda phobl sy'n byw yn Gaza yn rhybuddio nad yw'r drefn honno yn ddiogel.
SNP
Yn y cyfamser, mae Plaid yr SNP yn yr Alban yn bygwth "gorfodi pleidlais" yn San Steffan er mwyn ceisio dwyn pwysau ar Lywodraeth y DU i gydnabod Gwladwriaeth Balesteinaidd.
Hyd yn hyn, dyw Syr Keir Starmer ddim wedi cytuno i hynny.
Yn ôl Stephen Flynn, arweinydd yr SNP yn San Steffan, bydd yn cyflwyno'r "Bil Cydnabyddiaeth Palesteina" pan fydd aelodau seneddol yn ail ymgynnull fis Medi, oni bai bod safbwynt y Prif Weinidog yn newid.
Daw hyn wedi i 221 o aelodau seneddol yn San Steffan alw am gydnabyddiaeth swyddogol i wladwriaeth Palesteina, ddydd Gwener.
Mae'r ASau yn annog Llywodraeth y DU i gymryd y cam cyn cynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd fis Medi.
Mae'r Arlywydd Macron o Ffrainc eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn cydnabod Palesteina yn swyddogol yn y gynhadledd honno.
Aelodau Seneddol o'r Blaid Lafur yw'r mwyafrif sydd wedi llofnodi'r llythyr. Mae ASau Ceidwadol, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP, y Blaid Werdd, yr SDLP ac ASau annibynnol hefyd wedi ei lofnodi.
Mae Syr Keir Starmer yn dweud ei fod wedi ymrwymo i gydnabod Gwladwriaeth Balesteinaidd, ond bod yn rhaid i hynny fod yn rhan o broses heddwch yn y Dwyrain Canol.
“Os yw Keir Starmer yn rhwystro ymdrechion y DU i gydnabod Palesteinia, yna bydd yr SNP yn cyflwyno Bil Cydnabyddiaeth Palesteina pan fydd y Senedd yn ailymgynnull fis Medi, a gorfodi pleidlais, os fydd hynny'n angenrheidiol,” meddai Stephen Flynn o'r SNP.
Ychwanegodd: “Mae angen i Keir Starmer roi'r gorau i amddiffyn yr hyn nad oes modd ei amddiffyn, magu asgwrn cefn o'r diwedd, a mynnu fod Israel yn rhoi'r gorau i'w rhyfel ar unwaith.”
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.
Newyn
Daw'r galwadau diweddaraf wedi i'r Weinyddiaeth Iechyd ar Lain Gaza gyhoeddi yr wythnos diwethaf bod mwy na 100 o bobl wedi marw o ddiffyg maeth yn ystod y gwrthdaro, gan gynnwys 80 o blant.
Ychwanegodd yr awdurdod iechyd bod y rhan fwyaf wedi marw yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae Israel yn rheoli'r holl gyflenwadau sy'n dod i mewn i Gaza ac yn gwadu ei bod yn gyfrifol am brinder bwyd.
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres, wedi dweud bod y sefyllfa'n "arswydus."