Dynion a menywod Cymru yn dechrau eu hymgyrch EuroHockey II gyda buddugoliaethau
Mae timau dynion a menywod Cymru wedi sicrhau buddugoliaethau yn eu gemau agoriadol yn EuroHockey II.
Roedd y ddau dîm yn chwarae yn erbyn y Swistir, y dynion un eu herio ym Mhortiwgal a'r menywod yng Ngwlad Pwyl.
Y dynion oedd yn chwarae gyntaf ac fe ddechreuodd y tîm yn gryf iawn drwy sgorio dwy gôl o fewn y 10 munud agoriadol.
Jack Pritchard sgoriodd y gyntaf wedi iddo dderbyn y bêl o bas hir cyn sgorio yng nghornel dde isaf y rhwyd.
Rhys Bradshaw sgoriodd yr ail wedi 9 munud wrth iddo ymateb yn gyntaf ar ôl arbediad gan golwr y Swistir.
Cyn yr hanner sgoriodd Gareth Griffiths ar yr ail ymgais wedi cornel fer i Gymru.
Er i Lorenz Gassner sgorio i’r Swistir o gornel fer yn yr ail hanner, Cymru oedd yn fuddugol yn eu gêm agoriadol.
Buddugoliaeth hefyd oedd hanes y menywod yn erbyn y Swistir.
Daeth unig gôl y gêm gan y capten Beth Bingham yn y chwarter agoriadol.
Parhaodd Cymru i roi pwysau ar y Swistir am weddill yr ornest, ond heb gyrraedd cefn y rhwyd.
Dywedod Betsan Thomas o garfan y menywod: “Aeth y gêm yn dda heddi, fi’n credu bod pawb wedi mwynhau.
“Ni’n disgwyl ‘mlaen i whare’r Weriniaeth Tsiec ddydd Llun.
“Roedd y canlyniad heddi yn un dda ac mae pawb yn hapus.”
Y Weriniaeth Tsiec yw gwrthwynebwyr nesaf y menywod, a'r Alban fydd yn wynebu'r dynion.
Mae gemau'r menywod yn cael eu ffrydio ar blatfformau digidol S4C:
28 Gorffennaf am 14:15 - Cymru yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec
30 Gorffennaf am 10:15 - Cymru yn erbyn Lithwania
1 Awst - Amser i’w gadarnhau - Rownd gynderfynol
2 Awst - Amser i’w gadarnhau - Rownd derfynol