Cymro yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cneifio Corwen
Cymro yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cneifio Corwen
Cymro oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth dynion Cneifio Corwen nos Sadwrn.
Enillodd Gwion Lloyd Evans o bentref Bylchau yn Sir Ddinbych y teitl Pencampwr Cneifio Corwen 2025, sydd yn denu cystadleuwyr ar draws y byd.
Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal ar Ystad Rhug yng Nghorwen, gyda channoedd yn bresennol i wylio'r cystadlu.
Roedd y gystadleuaeth yn agos iawn rhwng Gwion Lloyd Evans a Toa Henderson o Seland Newydd, gyda 0.2 pwynt yn unig rhyngddynt wedi i'r cystadlu ddod i ben.
Wrth gasglu'r tlws dywedodd Gwion Lloyd Evans: “Mae'n wythnos sydd wedi bod fel rollercoaster.
“Mae ennill hwn yn golygu cymaint. Diolch yn fawr iawn.”
Ers yn 12 oed mae Gwion wedi caru cneifio, ac mae'n treulio'r haf bob blwyddyn yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau ledled y DU.
Bellach mae'n un o enwau mwyaf adnabyddus o fewn y byd cneifio. Fe ddaeth ei fuddugoliaeth fwyaf yn Sioe'r Ucheldir lle enillodd y gystadleuaeth unigol a thîm, gan ddod yn bencampwr byd yn 2023.
Cafodd Cneifio Corwen ei sefydlu yn 1989 gan Arwyn a Iola Jones, Maes Truan.
Dros y blynyddoedd mae’r digwyddiad wedi datblygu i fod yn un o’r cystadlaethau cneifio mwyaf poblogaidd yn y DU, ac mae'n denu cystadleuwyr o wledydd ar hyd a lled y byd.
Erbyn hyn, mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal dros ddeuddydd ac yn cael ei drefnu gan bwyllgor o wirfoddolwyr.
Mae modd dal i fyny â’r holl gystadlu o Gneifio Corwen ar dudalen YouTube S4C.