Dartiau: Jonny Clayton yn dod o fewn trwch blewyn i gyrraedd rownd derfynol y World Matchplay

Llun: Reuters
Jonny Clayton

Fe ddaeth y Cymro Jonny Clayton o fewn trwch blewyn i gyrraedd rownd derfynol y World Matchplay nos Sadwrn.

Mewn ras i 17 cymal roedd Clayton yn colli 16-10 yn erbyn James Wade o Loegr yn y Winter Gardens yn Blackpool.

Brwydrodd y gŵr o Bontyberem, Sir Gâr yn ôl i 16-16, ac felly dan reolau'r gystadleuaeth roedd angen i Wade neu Clayton ennill o ddau gymal er mwyn sicrhau'r fuddugoliaeth.

Er i Clayton wthio Wade i 18-18, y Sais oedd yn fuddugol o 20-18 mewn gornest o'r safon uchaf.

Clayton oedd yr unig Gymro ar ôl yn y gystadleuaeth wedi i Gerwyn Price golli yn erbyn Josh Rock yn rownd yr wyth olaf.

Fe fydd Wade yn wynebu Luke Littler yn y rownd derfynol nos Sul.

Ar ôl y gêm, cafodd Wade a Clayton sgwrs hir ar y llwyfan, ac yn ei gyfweliad ar Sky Sports dywedodd Wade mai Jonny Clayton yw un o'r "dynion gorau" yn y byd dartiau.

"Mae dau chwaraewr dartiau anhygoel yn y byd, Gerwyn Price a Jonny Clayton. Nhw yn fy marn i yw'r dynion gorau o fewn y gamp," meddai.

"Roedd Jonny wedi rhoi cyfle i mi heno, ond roeddwn i wedi rhoi cyfle iddo fe cyn hynny. Roedd hi'n gêm dda 'dw i'n meddwl, a 'dw i'n gobeithio bod pawb oedd yn gwylio yn y dorf a phawb oedd yn gwylio adref wedi mwynhau eu hunain."

'Golygu gymaint'

Mae cystadleuaeth y World Matchplay yn golygu llawer i Jonny Clayton.

Dyna oedd y gystadleuaeth olaf i'w dad ei weld yn cystadlu ynddi cyn iddo farw yn 2023.

Collodd i Nathan Aspinall yn y rownd derfynol y flwyddyn honno, ond roedd yn falch iawn bod ei dad wedi ei weld yn chwarae mor dda.

"Nid oeddwn i'n gallu perfformio yn y rownd derfynol, ond roeddwn i wedi gwneud rhywbeth dros fy nhad yn ei ddyddiau olaf, ac mae hynny'n golygu gymaint i fi," meddai ar y pryd.

"Roeddwn i wedi parhau i fynd, a diolch byth fy mod i wedi, achos honna oedd y gystadleuaeth olaf wnaeth fy nhad fy ngweld i'n chwarae a dwi mor falch fy mod i wedi cyrraedd y rownd derfynol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.