Hoci: 'Cyfle i ysbrydoli merched ifanc' trwy ddarlledu cystadleuaeth Ewropeaidd am ddim

Llun: Hoci Cymru
Betsan Thomas

Mae darlledu un o brif gystadlaethau hoci'r byd yn fyw am ddim "yn gyfle i ysbrydoli merched ifanc" yng Nghymru, yn ôl un o'r chwaraewyr.

Bydd Pencampwriaeth Menywod EuroHockey II yn cael ei ffrydio'n fyw ar S4C Clic a sianel YouTube S4C dros yr wythnos nesaf.

Dyma'r unig blatfform ar gael i wylio'r gystadleuaeth am ddim wrth i Gymru geisio ennill dyrchafiad i'r brif gynghrair.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal unwaith bob dwy flynedd, ac mae tair haen wahanol, gyda Chymru'n cystadlu yn yr ail haen.

Mae un o chwaraewyr Cymru, Betsan Thomas o Langyndeyrn, Sir Gaerfyrddin, o'r farn bod hwn yn gyfle i ysbrydoli mwy o ferched i ymuno â chlybiau.

Ers 2023 mae nifer y merched dan 17 sydd yn chwarae hoci i'w sir yng Nghymru wedi codi i bron i 350.

“Fi’n credu ma' fe’n siawns anhygoel i ddangos i’r merched ifanc y profiadau maen nhw’n gallu cael trwy chwaraeon," meddai Betsan wrth Newyddion S4C.

“Ni mynd i trial ysbrydoli’r merched ifanc hyn i bigo lan ffon a joio chwaraeon am beth yw e, bod dim pwysau a bod ‘na cymuned rili da i gael.

“Felly mae’r ffaith bod S4C yn dangos y gemau i gyd yn meddwl mae’r cymuned hyn mynd i dyfu mwy a neud i bobl teimlo fel allen nhw fynd i glwb.

“Ma’n neud i bobl teimlo’n rhan o rywbeth sy’n fwy na nhw a bod nhw’n gallu chwarae hoci os mai dyna maen nhw ishe neud."

Image
Llun: Hoci Cymru
Cymru yn herio Malaysia. (Llun: Hoci Cymru)

Bydd angen i Gymru orffen yn y ddau safle uchaf yn eu grŵp er mwyn cymhwyso ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Pe bai nhw'n cyrraedd y rownd derfynol, fe fyddan nhw'n selio eu lle yn EuroHockey I yn Llundain ar gyfer 2027, pe bai nhw'n ennill neu golli.

Y Weriniaeth Tsiec, y Swistir a Lithwania fydd eu gwrthwynebwyr yn y gemau grŵp.

Y gobaith i Gymru eleni yw ennill y gystadleuaeth, ac maen nhw wedi paratoi yn union ar gyfer hynny, meddai Betsan.

“I fod yn blunt, gobeithio bod ni’n ennill a cael y promotion ‘na.

“Ond ma fe gyd yn dod ‘da lot a lot o waith. Mae’r holl waith ni wedi bod yn neud dros yr wythnos diwetha’ nawr yn cyfle i ni ddangos sgiliau ni.

“Ma’n neis chwarae i Gymru a nid ni yw’r underdogs tro hyn, ni’n barod i ddangos be’ ni’n gallu neud, a ni ishe teams eraill i feddwl, 'watch out, ni mynd i fod yn dda.'"

'Hyder'

Fe fydd dynion Cymru yn chwarae eu gemau nhw yn y bencampwriaeth ym Mhortiwgal ddydd Sul.

Yr Alban, y Swistir a Croatia sydd yn eu grŵp, gyda'r ddau uchaf yn cyrraedd y rownd gynderfynol.

Er mwyn i Gymru gyrraedd cynghrair uchaf y Bencampwriaeth EuroHockey bydd angen iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol.

Fe fydd hynny hefyd yn sicrhau eu lle ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026. Mae gorffen yn y trydydd safle hefyd yn golygu y byddan nhw'n cyrraedd y gemau cymhwyso.

Yn 23 oed mae Nic Morgan o Abertawe wedi ennill chwe chap dros ei wlad.

Mae'n credu fod gan Gymru ddigon o chwaraewyr ifanc a phrofiadol i ennill y gystadleuaeth.

“Ni’n edrych ymlaen, ni yw un o’r favourites i ennill y twrnament," meddai wrth Newyddion S4C.

“Mae gennym ni dri chwaraewr sydd wedi chware ym Mharis yn y Gemau Olympaidd. Rydym yn tîm ifanc ond mae mix o brofiad a youth sydd yn rhoi hyder i bawb.

“Ni’n gwlad fach, tri miliwn o ni ac ni’n chwarae timau sydd gyda cyllideb enfawr, sawl chwaraewr i ddewis o. Ond ni’n gallu cystadlu.

“10 mlynedd yn ôl o’n ni’n 36 yn y byd, nawr ni’n 17. Pob twrnament ni’n mynd i - ni’n gwybod ni’n gallu ennill e. Ni ishe ennill."

Image
Nic Morgan
Nic Morgan ar ôl ennill ei gap cyntaf. (Llun: Hoci Cymru)

'Enfawr'

Cafodd Nic ei gynnwys yn garfan wedi i Sam Welsh dynnu allan gydag anaf.

Gyda'i olygon ar ei ddyfodol a gobeithio cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2026, mae'r gystadleuaeth yr wythnos hon yn gyfle "enfawr" iddo selio ei le yn y garfan.

“O’n i’n injury reserve yn dod mewn i’r twrnament, felly mae nawr yn gyfle i brofi fy hunain. Mae siawns da ‘da ni mynd i’r ffeinals.

“Ma’ 24 chwaraewr yn y squad ar hyn o bryd, gyda 18 yn y garfan ar gyfer gemau gyda dau chwaraewr wrth gefn yn teithio hefyd.

“Mae cystadlaethau mawr yn dod lan, felly mae’r gystadleuaeth yma yn masif i ni.

“Mae gen i bump gêm i ddangos be fi’n gallu neud a wedyn gobeithio bod fi’n cael fy newis ar gyfer y garfan ym mis Chwefror."

Ychwanegodd: "Pan o’n i’n ifanc ‘na gyd o’n i ishe neud oedd chwarae hoci, roedd fi a fy mrawd eisiau chwarae hoci trwy’r amser yn yr ysgol.

“Es i mewn i’r garfan ieuenctid yn 13, 14 oed a ‘na gyd o’n i ishe neud oedd chwarae i’r seniors.

“Mae gen i chwe cap ar y foment a fi jyst eisiau chwarae mwy a mwy, a teithio’r byd gyda’r bois."

Dyma'r gemau fydd yn cael eu ffrydio ar blatfformau digidol S4C:

27 Gorffennaf am 12:30 - Cymru yn erbyn y Swistir

28 Gorffennaf am 14:15 - Cymru yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec

30 Gorffennaf am 10:15 - Cymru yn erbyn Lithwania

1 Awst - Amser i’w gadarnhau - Rownd gynderfynol

2 Awst - Amser i’w gadarnhau - Rownd derfynol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.