Cyn-athrawes wnaeth gwympo yn annog eraill i ofyn am gymorth
Mae cyn-athrawes wnaeth gwympo yn ei chartref wedi annog eraill i ofyn am gymorth am ba fudd-daliadau sydd ar gael iddyn nhw barhau i fyw yn annibynnol.
Dywedodd Judith Williams, sy’n nain 80 oed, ei bod wedi gwneud cais am gefnogaeth drwy asiantaeth ar ôl syrthio wrth giât ei thŷ ym Mae Penrhyn.
Ar ôl ymchwilio fe wnaeth hi ddarganfod fod ganddi hawl i Lwfans Gweini wythnosol o £110.40 a newidiadau i’w chartref hi a'i gŵr, Gwilym, er mwyn ei hatal rhag syrthio eto.
Cafodd gefnogaeth gan asiantaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych sy'n gwasanaethu ardal o Lanfairfechan i Langollen.
“Mi wnes i syrthio wrth y giât yn ceisio dod â'r bin i mewn,” meddai Mrs Williams, sy’n gyn athrawes cerddoriaeth yn Ysgol John Bright yn Llandudno.
“Mi wnes i syrthio am nôl, a bu’n rhaid i mi gael cymorth dwy wraig a oedd yn pasio heibio i godi, yn ffodus roedd un ohonyn nhw’n barafeddyg.
“Mi wnaethon nhw fynnu fy mod i'n mynd i’r Adran Ddamweiniau oherwydd fy mod i wedi taro fy mhen.”
Dywedodd Mrs Williams, sy’n dioddef o arthritis a phroblemau'r galon, bod cymydog ar draws y ffordd wedi ei chynghori i ffonio Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych y diwrnod canlynol.
Mae’r asiantaeth yn dweud eu bod nhw wedi helpu dros 276 o bobl i hawlio £931,813 dros y 12 mis diwethaf i ariannu gwelliannau ac addasiadau.
“Heb holl gymorth yr asiantaeth, dydw i ddim yn gwybod sawl tro y byddwn i wedi cwympo,” meddai Mrs Williams.
‘Hyder’
Dywedodd y pianydd sy'n perfformio gyda Chôr Alaw ym Mae Colwyn ei bod hi’n falch o’r cyfle i barhau i fyw gartref ac yn annibynnol.
“Rydyn ni'n gofalu am ein hwyrion ddeuddydd yr wythnos ac maen nhw'n ein cadw ni'n brysur o gwmpas y tŷ,” meddai.
“Rydych chi'n colli hyder ar ôl cwympo, felly mae cael y rheiliau yn helpu, mae'n gwneud i mi deimlo'n fwy diogel.
“Fedra i ddim plygu a chodi nôl i fyny heb golli fy ngwynt a chael pendro, felly mae'n bwysig cael y rheiliau i ddal gafael ynddyn nhw.
“Mi gawson ni waith wedi’i wneud ar y grisiau blaen, oherwydd eu bod yn rhy uchel, ac am ein bod wedi cael dau achos o syrthio ar y grisiau.
“Mae'r ystafell ymolchi wedi'i thrawsnewid bellach, mae'n wych. Mae ganddi gawod cerdded i mewn a rheiliau llaw i'm helpu.
“Roeddwn i'n ei chael yn anoddach dringo dros y bath i fynd i’r gawod, oherwydd bod y gawod wedi’i gosod dros y bath cyn hyn.”
‘Cyn hired â phosibl'
Fe wnaeth yr asiantaeth osod rheiliau ar ddrysau blaen a chefn cartref Mr a Mrs Williams a gwneud gwelliannau i'r grisiau blaen.
Gosodwyd rheiliau hefyd ar y grisiau, yn y neuadd a'r porth, ac yn y toiled i lawr y grisiau, ac yn ogystal fe wnaeth staff Gofal a Thrwsio gynllunio adnewyddu'r ystafell ymolchi i fyny'r grisiau, gan ei throi'n ystafell wlyb hawdd ei defnyddio gyda rheiliau diogelwch.
Er bod y pâr oedrannus wedi talu’n breifat am y gwaith yn yr ystafell ymolchi, trefnodd yr asiantaeth eithriadau TAW a chostau llafur ar eu rhan.
Dywedodd y gweithiwr achos, Amanda Derbyshire, ei bod yn falch eu bod wedi gallu gwneud cymaint o wahaniaeth i fywyd Mrs Williams.
"Mae'r cyfan yn helpu gydag annibyniaeth ac aros yn eich cartref, oherwydd dyna beth rydyn ni i gyd eisiau,” meddai.
"Mae'n ymwneud ag aros yn eich cartref cyn hired â phosibl, aros yn rhywle lle rydych chi eisiau bod.”
Llun: Amanda Derbyshire gyda Judith Williams