Penderfyniad ar ysgol plant ag anghenion dysgu ychwanegol ‘ar fin digwydd’
Mae disgwyl y bydd penderfyniad ar ysgol newydd ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Llanelli yn cael ei wneud yn y dyddiau nesaf.
Dywedodd yr aelod dros addysg a’r iaith Gymraeg ar gabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin, y Cynghorydd Glynog Davies, y bydd yn cyhoeddi “cynnig terfynol” ar 31 Gorffennaf.
Roedd y cabinet eisoes wedi cytuno fis diwethaf i edrych ar ddau opsiwn ar gyfer dyfodol Ysgol Heol Goffa'r dref - un yn ysgol 150 o ddisgyblion ac un arall yn ysgol ar gyfer 250 o ddisgyblion.
Fe wnaethon nhw gytuno i ddiystyru'r opsiynau eraill a oedd yn cynnwys adnewyddu'r ysgol bresennol sy'n llai o faint, ac adeiladu ysgol arbennig newydd sydd â'r un nifer o leoedd.
Mae lle i 75 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol yn Llanelli, ond mae dros 120 yno ar hyn o bryd.
Dywedodd Glynog Davies mewn cyfarfod ddydd Mercher eu bod nhw wedi bod yn edrych ar gostau a gwaith dichonoldeb y gwahanol opsiynau a bod llawer o’r gwaith bellach wedi ei gwblhau.
Roedd yn ymateb i arweinydd yr wrthblaid Lafur, y Cynghorydd Deryk Cundy, a ofynnodd iddo roi tawelwch meddwl i rieni drwy ddweud pryd y byddai’r ysgol newydd “o’r radd flaenaf a gafodd ei haddo” yn barod ar gyfer disgyblion.
Fe ymatebodd Glynog Davies: “Yr hyn sy’n bwysig yma yw fy mod i’n agos iawn at ddod i benderfyniad.
“Fy mwriad a’m gobaith yw gwneud cynnig pendant i’r cabinet ar ddiwrnod olaf y mis, sef Gorffennaf 31.
“Mae ar fin digwydd, ac mae hynny’n newyddion da i ni i gyd yn y siambr hon.”
Y cefndir
Mae rhieni'r disgyblion yn yr ysgol sydd ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol wedi galw am ysgol newydd ers tro.
Dywedodd y cyngor y llynedd nad oedden nhw’n gallu parhau â'i gynlluniau presennol i adeiladu ysgol arbennig newydd yn Llanelli, i gymryd lle ysgol bresennol Ysgol Heol Goffa, oherwydd pwysau ariannol.
Ond ar ôl ymgyrch gan rieni fe wnaethon nhw benodi David Davies, cyn-bennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant Cyngor Bro Morgannwg, i arwain adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth arbenigol bresennol.
Roedd yr adolygiad a gafodd ei gyflwyno ym mis Chwefror wedi ystyried chwe opsiwn ar gyfer dyfodol yr ysgol, gan gynnwys adnewyddu'r ysgol bresennol ac adeiladu ysgol arbennig newydd.
Ym mis Mehefin penderfynodd Cabinet y cyngor i ystyried dwy o’r chwe opsiwn a fyddai yn golygu adeiladu ysgol newydd.
Clywodd y cabinet y gallai'r ysgol newydd gostio hyd at £58m.