Y Tŷ Gwyn yn ymateb i honiadau newydd fod Trump yn 'ffeiliau Epstein'
Mae’r Tŷ Gwyn wedi ymateb wedi i bapur newydd y Wall Street Journal gyhoeddi honiadau newydd am gysylltiad yr Arlywydd Donald Trump â’r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Yn ôl y papur newydd fe wnaeth Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ddweud wrth Donald Trump ym mis Mai bod ei enw ymysg nifer oedd yn eu cofnodion am Jeffrey Epstein.
Mae adroddiad yr WSJ yn nodi nad oedd hynny ynddo’i hunain yn arwydd fod yr Arlywydd wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn nad oedd yr honiadau “yn ddim mwy na pharhad o’r newyddion ffug sydd wedi ei greu gan y Democratiaid a’r cyfryngau rhyddfrydol”.
“Y gwirionedd yw bod yr Arlywydd wedi cicio Epstein allan o’i glwb am ei fod yn creep,” ychwanegodd y llefarydd.
Y cefndir
Roedd swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dod o hyd i “lond lori” o ddogfennau yn ymwneud â Jeffrey Epstein yn gynharach eleni gan ddarganfod bod enw Donald Trump yn ymddangos sawl gwaith ynddyn nhw, meddai'r WSJ.
Ym mis Mai, meddai’r papur newydd, fe wnaeth y Twrnai Cyffredinol Pam Bondi roi gwybod i’r arlywydd mewn cyfarfod yn y Tŷ Gwyn fod ei enw yn ffeiliau Epstein.
Mae'r WSJ yn dweud bod eu hadroddiad yn seiliedig ar siarad â swyddogion o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Wrth ymgyrchu'r llynedd fe addawodd Donald Trump y byddai yn cyhoeddi ‘ffeiliau Epstein’.
Ond fe honnodd heb dystiolaeth yr wythnos diwethaf fod y cyn-Arlywydd Barack Obama a chyn-gyfarwyddwr yr FBI, James Comey, wedi creu'r ffeiliau.
Mae’r honiadau wedi arwain at argyfwng gwleidyddol i’r arlywydd gyda nifer o’i gefnogwyr ei hun yn mynnu y dylai gyhoeddi'r ffeiliau.
Pleidleisiodd tri o Weriniaethwyr yn Is-bwyllgor Goruchwylio Tŷ’r Cynrychiolwyr brynhawn Mercher i orfodi’r adran gyfiawnder i gyhoeddi’r ffeiliau.