Cryptosporidiwm: ‘Peidiwch â gadael i ymwelwyr gwtsio a chusanu ŵyn’
Mae corff iechyd wedi cynghori ffermwyr sy'n cynnal digwyddiadau bwydo ŵyn cyhoeddus i osgoi cynnig cyswllt agos ag anifeiliaid, fel dal, cwtsio a chusanu ŵyn.
Daw hyn ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru edrych ar y dystiolaeth o gynnydd mewn achosion o salwch ymhlith ymwelwyr â ffermydd.
Mae'r corff iechyd wedi cyhoeddi papur newydd sy'n dangos bod pobl a oedd â'r lefelau agosach o gysylltiad yn llawer mwy tebygol o fynd yn sâl â Chryptosporidiwm.
Daw'r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Iau wedi nifer o achosion o gryptosporidiwm ymhlith pobl a ymwelodd â fferm yng Nghymru yng ngwanwyn 2024 ar gyfer digwyddiadau bwydo ŵyn.
Fe gafodd yr ymwelwyr yno eu hannog i ddal a chofleidio'r ŵyn yn ystod y bwydo. Fe aeth dros 200 o bobl yn sâl, ac aeth 18 ohonynt i'r ysbyty. Roedd plant dan ddeg oed bedair gwaith yn fwy tebygol o fynd yn sâl.
Dywedodd Dr Christopher Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac un o awduron yr adroddiad, bod cryptosporidiwm a chlefydau heintus eraill yn lledaenu'n hawdd iawn.
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos pan fydd plant ifanc yn dod i gysylltiad agos ag anifeiliaid fel ŵyn - pan fyddant yn cwtsio, yn cusanu neu’n mwytho eu hwynebau - bod risg sylweddol y gallent ddal yr haint, a all achosi salwch difrifol ac arwain at arhosiad yn yr ysbyty,” meddai.
“Mae’r adroddiad hwn yn argymell bod bwydo ŵyn neu loi yn cael ei oruchwylio a’i wneud gyda’r anifeiliaid wedi’u gwahanu oddi wrth yr ymwelwyr gan eu corlannau.
“Mae hyn yn golygu y gall pobl barhau i fwydo'r anifeiliaid â photel ond y gallant gael mwy o amddiffyniad rhag salwch.”
Cyngor
Mae cryptosporidiwm yn barasit bach iawn, microsgopig sy'n achosi salwch a dolur rhydd. Gall y salwch fod yn ddifrifol ymysg rhai pobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys plant ifanc iawn a'r rhai sydd â diffygion imiwnedd penodol.
Mae cryptosporidiwm yn gyffredin iawn ymysg da byw ifanc. Caiff ei basio rhwng anifeiliaid a phobl mewn carthion; hyd yn oed mewn symiau anweladwy.
Bydd digwyddiad panel yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Iau yn cyflwyno rhai o'r prif faterion ar gadw digwyddiadau fferm yn ddiogel rhag y parasit.
Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys darparu cyfleusterau golchi dwylo gwell, sy’n cynnwys basnau gyda dŵr rhedeg poeth ac oer, sebon hylif a thywelion papur.
Nid yw diheintydd dwylo na gel alcohol yn effeithiol yn erbyn cryptosporidiwm.
Yn ogystal â hyn, dylai fod arwyddion amlwg yn cynghori pobl i olchi eu dwylo'n rheolaidd tra byddant ar y safle. Dylai ymwelwyr hefyd sicrhau bod dillad yn cael eu golchi cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ymweld â'r safle.
Dywedodd Dr Christopher Williams bod cyfleusterau golchi dwylo digonol ar y safle yn gwbl hanfodol.
“Mae angen i sinciau gynnwys dŵr rhedeg poeth ac oer, ynghyd â chyflenwad da o sebon hylif a thywelion papur,” meddai.
“Dylai arwyddion o amgylch y digwyddiad sicrhau bod pobl yn cael eu hannog i olchi eu dwylo eu hunain a dwylo eu plant yn dda ac yn rheolaidd drwy gydol eu hymweliad.
“Hefyd, hoffem i'r ffermwyr wneud eu hymwelwyr yn ymwybodol o’r risgiau sy’n gysylltiedig â chael cyswllt agos ag anifeiliaid ifanc, fel bod pobl yn cael eu haddysgu cyn iddynt alw heibio.
“Byddwn yn annog ffermwyr sy’n ystyried agor eu ffermydd ar gyfer y digwyddiadau hyn i ystyried yr holl risgiau, a chynllunio ymlaen llaw yn gynnar er mwyn eu galluogi i wneud yr holl ddarpariaethau angenrheidiol er mwyn cadw eu hymwelwyr yn ddiogel rhag haint.”