
'Cneifio Cymru ar ben y byd' ar faes y Sioe Frenhinol
'Cneifio Cymru ar ben y byd' ar faes y Sioe Frenhinol
O Wynedd i Seland Newydd, mae cneifwyr ar faes y Sioe Frenhinol eleni yn dweud bod safon y cystadlu yno yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn.
Ac wrth i’r cystadlu ddod i ben ddydd Iau, mae nifer o'r cneifwyr yn awyddus i ddathlu’r cynnydd y mae’r Cymry wedi ei wneud ar lefel cystadleuol.
Y llynedd fe lwyddodd Cymru i drechu Seland Newydd oddi cartref wrth gneifio defaid, a hynny am y tro cyntaf erioed.

Mae Meirion Evans, 26 oed o Fachynlleth, wedi bod yn cneifio defaid ers saith mlynedd bellach, ac wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd bod “cneifio Cymru ar ben y byd” erbyn hyn.
“Y gora ma’ ‘rioed ‘di bod rŵan dwi’n meddwl," meddai.
“Ma’ jest gymaint o rei ifanc yn dod drwadd fyd, ma’n class i weld."

Yn wreiddiol o Seland Newydd, mae Blake Hughes, 26 oed, wedi bod yn ymweld â’r Sioe Fawr bob blwyddyn ers pum mlynedd er mwyn cymryd rhan yn y cystadlu.
Ag yntau wedi bod yn cneifio ers dros 10 mlynedd, mae’n dweud bod safon y cneifio yng Nghymru ymhlith y gorau y mae ef wedi ei weld.
“Mae Seland Newydd wastad wedi bod â’r cneifwyr gorau… ond mae Cymru wedi dyfalbarhau ac yn gystadleuwyr brwd," meddai.
“Mae’n anhygoel draw fan hyn yng Nghymru, yr angerdd am gneifio, yn y cymunedau lleol. Dyma’r peth mwyaf cyffrous yn y byd cneifio.”

Mae Huw Jones, 27 oed o Dywyn, Gwynedd hefyd yn gneifiwr profiadol sydd wedi ymweld â Seland Newydd gyda’i swydd yn flynyddol ers chwe blynedd bellach.
Dywedodd bod ‘na gymuned o gneifwyr yn rhyngwladol a bod hynny’n cynnig “cyfle mawr i ddatblygu a helpu’ch gilydd a rhannu lot o syniadau gwahanol.”
“Achos ma’ pawb yn trio curo ei gilydd o hyd wyt ti’n altro cneifio so ma’ cneifio yn mynd yn well ag yn well o hyd achos ma’ rhywun yn trio ffeindio ffordd i mynd ‘chydig bach ymlaen,” meddai.

'Hanfodol o bwysig'
Fel pennaeth cyfathrebu mudiad Gwlân Cymru, dywedodd Gareth Jones o Ddinbych fod cystadlaethau cneifio yn hollbwysig i’r diwydiant gwlân ehangach.
“Ma’r cystadlaethau sy’n cymryd lle yma yn y Sioe Frenhinol ac mewn llawer o sioeau eraill ar draws Cymru yn hanfodol bwysig i godi ymwybyddiaeth, does ‘na ddim ffenestr siop well na be’ ‘dan ni’n weld yma wsos yma er mwyn hyrwyddo gwlân a chneifio, a hyrwyddo'r diwydiant ffantastig ‘dan ni gyd yn rhan ohona fo,” meddai.

Mae’r mudiad, sy’n cynrychioli 6,000 o ffermwyr yng Nghymru a 30,000 ar hyd y DU, yn dathlu eu pen-blwydd yn 75 eleni.
“Mae cneifio yn hollbwysig er mwyn lles yr anifail felly mae’r cnu yn cael ei dyfu dros gyfnod o flwyddyn a wedyn o gwmpas mis Mai, mis Mehefin a mis Gorffennaf adeg yma o’r flwyddyn mae’n amser i dynnu’r cnu na i ffwrdd," meddai Gareth Jones.
“Gwaith ni ydy cael y gwlân oddi ar y ffarm a’i gyflwyno fo i’r farchnad er mwyn trio cael y pris gorau posib allwn ni, a hefyd hyrwyddo manteision amgylcheddol gwlân a cynrychioli’r 6,000 o ffermwyr.”