Cyhoeddi sancsiynau ar gyfer y rhai sy'n smyglo pobl

Cwch defnyddio gan smyglwyr

Fe allai arweinwyr gangiau, swyddogion heddlu anonest a chwmnïau sydd yn gwerthu offer cychod ar gyfer croesi'r Sianel gael eu gwahardd rhag teithio i Brydain yn y dyfodol.

Fe fyddai eu hasedau hefyd yn cael eu rhewi.

Daw'r cyhoeddiad gan y Swyddfa Dramor mewn ymdrech i leihau'r diwydiant smyglo pobl.

Ymhlith y sancsiynau sydd wedi eu cyhoeddi mae enwi yn gyhoeddus unrhyw un sydd wedi cael eu cosbi fel y bydd hi yn anghyfreithlon i fusnesau a banciau ym Mhrydain i ddelio gyda nhw.

Pobl sydd yn cael eu targedau yw rhai sydd yn ymwneud ac yn elwa o'r cychod bach neu o ddosbarthu pasport ffug. 

Bydd unigolion sydd yn trosglwyddo arian trwy system Hawala, sef system gyfreithiol sydd yn cael ei ddefnyddio yn aml gan smyglwyr, hefyd yn cael eu targedu.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor David Lammy dyw hi ddim yn bosib "derbyn y status quo".

"Dyna pam bod y DU wedi creu cyfundrefn sancsiynau cyntaf y byd i dargedau gangiau sydd yn ymwneud gyda smyglo pobl a chreu mudo anghyson yn ogystal â'r rhai sydd yn galluogi i hyn ddigwydd.  

"O fory ymlaen bydd y rhai sydd yn ymwneud a hyn yn wynebu cael eu hasedau wedi eu rhewi, eu troi i ffwrdd o'r system ariannol ym Mhrydain a'u gwahardd rhag teithio i Brydain."

Daw hyn yn dilyn mesur sydd wedi ei gyflwyno sydd yn rhoi mwy o bwerau i heddluoedd i ymchwilio ac erlyn y rhai sy'n smyglo pobl.

Mae'r Ysgrifennydd Cartref cysgodol wedi dweud na fydd rhewi asedau ariannol yn datrys y broblem. 

Mewn datganiad i'r BBC, mae Chris Philp wedi dweud bod y nifer o bobl sydd yn dod yn anghyfreithlon i'r wlad yn achosi "argyfwng i ddiogelwch cyhoeddus" menywod a genethod.

Llun: Gareth Fuller/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.