Myfyrwyr a gafodd eu lladd yn ymosodiadau Nottingham i dderbyn graddau ar ôl marwolaeth
Bydd graddau ar ôl marwolaeth yn cael eu cyflwyno i ddau fyfyriwr a gafodd eu trywanu i farwolaeth yn ymosodiadau Nottingham.
Cafodd Barnaby Webber a Grace O’Malley-Kumar, y ddau yn 19 oed, eu lladd wrth iddyn nhw gerdded adref wedi noson allan yn ystod oriau mân y bore ar 13 Mehefin 2023.
Plediodd Valdo Calocane, a gafodd ei fagu yn Hwlffordd, Sir Benfro yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Wedi iddo ladd Barnaby Webber a Grace O'Malley-Kumar, fe laddodd y gofalwr 65 oed Ian Coates, a cheisio lladd tri pherson arall.
Mae Prifysgol Nottingham, lle roedd Mr Webber yn astudio hanes a Ms O'Malley-Kumar yn fyfyrwraig feddygol, wedi cadarnhau y bydd y ddau yn derbyn graddau ar ôl marwolaeth yn ystod y seremonïau graddio yr haf hwn.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Nottingham: “Byddwn yn cynnig y graddau i Barney a Grace yn ddiweddarach y mis hwn, ac yn gweithio gyda'u teuluoedd er mwyn deall eu dymuniadau wrth nodi'r garreg filltir bwysig hon.
“Rydym hefyd yn gwerthfawrogi y bydd hwn yn ddiwrnod emosiynol i nifer a oedd yn eu hadnabod, a fydd yn cofio eu ffrindiau Barney a Grace.”
Dywedodd Emma Webber, mam Barnaby, y bydd ei frawd ieuengaf yn mynd i'r seremoni i dderbyn y radd ar ran y teulu.
“Rydym mor falch y bydd Charlie, sy'n 17 oed, yn medru mynd i Nottingham, wrth iddo gael ei gefnogi gan ffrindiau agos a theulu, i dderbyn gradd Barney ar ein rhan.
“Yn anffodus, byddai dygymod â hynny yn ormod i ni, ond rydym yn credu ei bod yn bwysig cofnodi'r achlysur.”
Ychwanegodd y bydd yn meddwl am Barney ar y diwrnod, ei wên, a'i ffrind arbennig Grace yn ogystal ag Ian Coates.
“Rydym eisiau dathlu eu bywydau, ac nid yr anghenfil sydd wedi eu cipio oddi wrthym,” meddai.
Yn ystod yr achos llys, derbyniodd yr erlyniad ble dieuog Calocane i gyhuddiad o lofruddiaeth yn Ionawr 2024, ar ôl i dystiolaeth feddygol ddangos ei fod yn dioddef o salwch meddwl difrifol.