Cynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt newydd yn cynnig 'cyfleoedd' i bobl ifanc

Cynlluniau ar gyfer ffermydd gwynt newydd yn cynnig 'cyfleoedd' i bobl ifanc

"The reason we're here is the launch of Trydan Gwyrdd Cymru."
 
Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Ynni ar y pryd yn lansio Trydan Gwyrdd Cymru y llynedd.
 
A bellach, bron i flwyddyn ers y lansiad yna mae'r cwmni wedi datgelu cynlluniau ar gyfer eu dair fferm wynt gyntaf.

"Ni'n tybio gallai fod hyd at 650 swydd i'r tri prosiect i gynhyrchu'r ffermydd ond wedyn bydd lot o swyddi hefyd."

Y bwriad ydy adeiladu ffermydd gwynt newydd ar draws Cymru fferm wynt Carreg Wen yn Rhondda Cynon Taf Glyn Cothi yng Nghaerfyrddin a Chlocaenog Dau ger Llyn Brenig.

Bydd y tri safle yn gweld 67 o dyrbinau newydd rhyngthyn nhw.

Ac mewn digwyddiad i gyhoeddi'r prosiectau newydd roedd un prentis ifanc yn gobeithio bydd modd manteisio ar y cyfleoedd newydd.

"Mae'n beth andros o dda.

"Weithiau does dim cyfleoedd mewn rhai ardaloedd o Gymru.

"Bydd e'n andros o dda bod 'na brosiectau'n cychwyn yn y gogledd a de Cymru i lot o bobl ifanc."

Mae gan y Llywodraeth darged i gynhrychu ynni adnewyddadwy i gyrraedd 70% o anghenion y wlad erbyn 2030 gyda hynny i gynyddu i 100% erbyn 2035.

Ond gyda'r rhybudd y gallai'r galw am drydan bron dreblu erbyn 2050 ydy'r cynlluniau yma yn ddigon i ateb y galw?

"Just in the last few weeks we've had the announcement the Crown Estate has allocated two big sites off the coast in the Celtic Sea for floating offshore wind.

"That's gonna be a big contribution and there are opportunities for renewable technologies right across Wales."

Ond mae 'na bryder gan rai yn lleol am y datblygiadau.

"Dylai trydan gwyrdd fod o fudd i Gymru gyfan ond rhaid amddiffyn ein tirweddau a'n tir.

"Mae ffermydd gwynt ar y mor yn gwneud hynny."

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n rheoli'r tir lle bydd y tyrbinau'n cael eu hadeiladu y byddai'n sicrhau bod yr holl seilwaith yn cael ei integreiddio'n ofalus i'r goedwig weithredol gyda nodweddion sensitif yn amgylcheddol yn cael eu diogelu.

Mae disgwyl i'r ffermydd gwynt newydd gynhyrchu digon o drydan ar gyfartaledd i bweru 350,000 o gartrefi Cymru.

Ond gyda disgwyl cymeradwyaeth y broses gynllunio gyntaf rhaid disgwyl chydig eto cyn gweld pa ffordd mae'r gwynt yn chwythu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.