Rhybudd i bobl fod yn wyliadwrus ar ôl dod o hyd i ffliw adar ger arfordir Ceredigion

Gwylan

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus ar ôl i ffliw adar gael ei ddarganfod mewn adar môr yr arfordir.

Dywedodd y cyngor bod y rhybudd yn arbennig o berthnasol ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sy'n byw rhwng Aberaeron a Chei Newydd.

Daw'r rhybudd ar ôl i achos o ffliw adar gael ei ddarganfod mewn gwylan goch ar draeth Cei Newydd, yn ogystal â chynnydd mewn adar môr marw.

Mae arwyddion gwybodaeth bellach wedi cael eu gosod ar draethau'r ardal i godi ymwybyddiaeth ac atgoffa pobl i adrodd yr achosion yn ddiogel.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, ni ddylai pobl gyffwrdd na chasglu adar gwyllt sydd wedi marw neu sy'n edrych yn sâl.

Dylai pobl yr ardal hefyd gadw cŵn ar dennyn ac osgoi gadael llwybrau cerdded meddai'r cyngor.

'Risg isel'

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am ddiogelu'r cyhoedd, bod y risg yn isel.

"Mae’r cyngor yn pwysleisio bod y risg i'r cyhoedd yn isel, ond bod angen bod yn wyliadwrus," meddai.

"Hoffai'r cyngor diolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac rydym yn atgoffa pawb i beidio â cheisio trin unrhyw adar gwyllt sydd wedi marw."

Fis diwethaf cafodd achosion o ffliw adar eu darganfod ar ffermydd yn Hwlffordd, Sir Benfro a Glyn Ceiriog yn Sir Wrecsam.

O ganlyniad roedd parth gwarchod o 3km a pharth gwyliadwriaeth hyd at 10km mewn grym o amgylch y safleoedd er mwyn cyfyngu'r risg o ledaenu'r haint.

Gall pobl roi gwybod am unrhyw adar gwyllt sydd wedi marw – gan gynnwys adar dŵr fel elyrch, gwyddau, hwyaid, neu adar ysglyfaethus – drwy ffonio llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.