
Gŵyl Arall yn dychwelyd gyda 'mwy o ddigwyddiadau i'r teulu'
Bydd Gŵyl Arall yn dychwelyd i Gaernarfon eto eleni gyda mwy o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu nag erioed, yn ôl un o'r trefnwyr.
Cafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf yn 2009 er mwyn cynnig digwyddiadau cerddorol, celfyddydol a llenyddol i drigolion y dref.
Dros y penwythnos bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal eto mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys Galeri, Stryd y Plas ac Oriel CARN.
Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Menna Thomas, bydd yr arlwy eleni'n cynnwys mwy o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu i gyd.
"Oeddan ni'n eitha prysur cyn Covid, ond wedyn ers hynny 'da ni 'di bod yn adeiladu'n ara' deg yn ôl i fyny i lot o ddigwyddiadau, gan gynnwys yn benodol eleni mwy o bethau ar gyfer y teulu oll," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae 'na dipyn o ddigwyddiadau i blant a'r teulu oll eleni na sydd 'na 'di bod dros y blynyddoedd diwethaf ers Covid."
Maen nhw'n cynnwys syrcas ar y maes, gweithdy celf i blant a sesiwn gyda'r awdur Mari Lövgreen am ei chyfrol newydd.

Mae mwy o ddigwyddiadau cerddorol yn rhan o'r arlwy eleni hefyd.
"Ar ôl Covid roedd 'na ddiffyg arian, ond 'da ni'n lwcus iawn o gael cyllideb gan dipyn o arianwyr eleni," meddai.
"Mae hynny wedi ein galluogi ni i gael band Ciwb a'r gig dydd Sul efo Yws Gwynedd a DJs lleol."
Yn ôl Menna, mae'n "bwysig" i'r ŵyl apelio at aelodau gwahanol o'r gymuned.
"Grŵp penodol sy'n dod i bethau, ond mae o wastad 'di bod yn fwriad i drio cynnig mwy o bethau i lot o bobl a mwy o bobl dre," meddai.
"Mae popeth yn rhesymol iawn o ran pris, felly'r bwriad ydi ymestyn y cynnig i gael mwy o bobl o oedrannau gwahanol a pobl sydd heb fod o'r blaen.
"Mae trio bod yn deg i gymaint o bobl o'r gymuned yn bwysig, ac mewn byd delfrydol 'sa ni'n neud popeth am ddim, ond yn anffodus 'da ni'n goro talu'n ffordd."
Fel rhan o'r ymgyrch i ddenu pobl newydd, bydd pennod arbennig o bodlediad CPD Tref Caernarfon, Cofi Cast, yn cael ei darlledu'n fyw nos Wener.

"Ma hwnna'n wbath oddan ni isho gynnig, rhan arall o gymdeithas leol sy' ddim fel arfer yn cael buy-in yn yr ŵyl fel arall," meddai Menna.
"Mae'n cael ei gynnal yn y Crown, tafarn sy'n bendant yn apelio at griw Cofis pêl-droed – fydd hwnna'n bendant yn boblogaidd efo nhw."
'Angen mwy o wirfoddolwyr'
Fel nifer o wyliau eraill, mae Gŵyl Arall yn cael ei threfnu gan dîm bach o wirfoddolwyr.
Er eu bod nhw'n "angerddol" dros yr ŵyl, mae Menna'n dweud bod yn rhaid cael rhagor o bobl i wirfoddoli yn y dyfodol.
"Mae'n gynaliadwy fel yda ni ar y funud, ond 'da ni hefyd yn hollol ymwybodol bod ni angen mwy o wirfoddolwyr a mwy o hyfforddiant," meddai.
"'Da ni 'di rhoi cais mewn er mwyn gallu hyfforddi pobl yn y flwyddyn nesa a bod mwy o arian yn cael ei roi mewn i'r gwirfoddoli a chynaladwyedd fel bod ni efo rhywun sydd wedi ei hyfforddi i wneud y marchnata i ni."
Daw ei sylwadau wrth i Ŵyl Fwyd Caernarfon gyhoeddi y bydd yn cymryd blwyddyn o seibiant yn 2026 yn sgil absenoldeb rhai o'i gwirfoddolwyr.

Fe aeth Menna ymlaen i ddweud y byddai gorfod rhoi'r gorau i'r ŵyl yn sgil diffyg gwirfoddolwyr yn "siom".
"Y rheswm nath Gŵyl Arall ddechrau yn y lle cyntaf oedd achos bod pobl isho i bethau fel 'ma ddigwydd yn dre," meddai.
"Felly, wedyn natho ni feddwl, pam nawn ni jyst dechrau rwbath? A dyna 'da ni'n dal i neud, a 'da ni'n dod i fyny efo syniadau boncyrs.
"Ond da ni'n ymwybodol os fysa fo'n cario mlaen fatha mae o 'di neud a bod ni'n mynd yn llai ac yn llai a mynd yn brysurach ac yn brysurach, fydd o ddim yn gynaliadwy ac mi fysa hynna'n siom mawr i dre."