Teyrnged teulu i feiciwr modur elusen gwaed fu farw ar ôl gwrthdrawiad

A478 ym Mhentregalar rhwng Croes Glandy a Blaenffos

Mae teulu dyn 78 a oedd yn feiciwr modur ar gyfer elusen gwaed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Crymych yn Sir Benfro wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Timothy Minett, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Tim, yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A478 ym Mhentregalar rhwng Croes Glandy a Blaenffos.

Roedd yn feiciwr modur ar gyfer elusen Beiciau Gwaed Cymru ac roedd yn gwirfoddoli ar adeg y gwrthdrawiad a ddigwyddodd an tua 18.25 ar 2 Gorffennaf.

Dywedodd ei deulu eu bod yn "drist iawn" o golli gŵr, llysdad, taid, brawd, ewythr a ffrind ymroddedig yn dilyn ei farwolaeth sydyn.

Mae teulu Mr Minett wedi gofyn am breifatrwydd wrth iddyn nhw ddod i delerau â'i farwolaeth.

Yn unol â dymuniadau Mr Minett, ni fydd angladd yn cael ei chynnal.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000544479. 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.