
Y cwmni sy'n creu gwrthwenwyn nadroedd yng nghefn gwlad Cymru
Y cwmni sy'n creu gwrthwenwyn nadroedd yng nghefn gwlad Cymru
Mae meddyginiaeth yn erbyn gwenwyn nadroedd sydd yn cael ei greu yng nghefn gwlad Cymru yn “achub bywydau ar draws y byd.”
Mae cwmni MicroPharm yn cynhyrchu gwrthwenwyn yn erbyn gwenwyn nadroedd all achosi marwolaeth pobl mewn gwledydd yn Ewrop, y Caribî ac yn Affrica.
Mewn dau safle – Cilgerran yn Sir Benfro a Chastell Newydd Emlyn yn Sir Gâr – mae rhai o’r gwyddonwyr yno wedi rhannu eu balchder dros wneud gwaith “mor bwysig” yn eu hardal leol.
Yn wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan, mae’r uwch wyddonydd rheoli ansawdd Bethan Evans yn gweithio yn y labordy yng Nghilgerran sydd yn arbrofi ar y feddyginiaeth fel rhan o’r broses i sicrhau ei fod o ansawdd da.
A hithau wedi bod yn y diwydiant ers dros 20 mlynedd, mae’n dweud ei bod yn “bwysig iawn” fod cyfleoedd i weithio yn y maes ar gael yn lleol.
“Mae’n tipyn o sioc i bobl ddeall bod y teip hyn o ddiwydiant yn digwydd yn yr ardaloedd yma,” meddai.
“I feddwl bod ni’n cynhyrchu rhywbeth sydd mor bwysig yn rhai o’r gwledydd ‘ma yn cefn gwlad Cymru yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, mae’n bwysig iawn.
“Mae fe’n gwaith o safon uchel… mae fe’n achub bywydau dros y byd i gyd.”

'Achub bywydau'
Mae gwrthwenwyn yn erbyn un o nadroedd mwyaf peryglus Affrica ymhlith y meddyginiaethau y mai MicroPharm yn eu cynhyrchu, esboniodd Dr Eifion Robinson o'r cwmni.
“Y cynnyrch sy’n mynd mas i Orllewin Affrica, mae’n ar gyfer y West African carpet viper sydd yn gyfrifol am fwy o marwolaethau yn Affrica ‘na pob neidr arall yn Affrica wedi rhoi at ei gilydd,” meddai.
Mae ‘na sawl cam er mwyn cynhyrchu gwrthwenwyn o’r fath, gan gynnwys puro’r cynnyrch, ei hidlo a'i brofi.
Yr ystafell o’r enw'r Ystafell Lan yw un o’r safleoedd prysuraf sydd gan y cwmni, meddai Dr Robinson.

Fel cam cyntaf, mae’r cynnyrch yn cael ei greu drwy ddefnyddio gwaed gan geffylau yn Ffrainc.
Mae MicroPharm yn dweud bod y ceffylau yn cael y gofal gorau drwy gydol y broses.
“Fan hyn [yn y ‘stafell lan] mae’r gwaed yn dod mewn a ni’n dechrau’r broses o sawl cam o biwreiddio’r cynnyrch.
“Mae’r proses i gyd yn cymryd bron pedwar wythnos i gyflawni.
“O’r site yma yn Cilgerran mae’r cynnyrch yn mynd draw i’r stafell glan yn Castell Newydd Emlyn ble ni’n hidlo’r cynnyrch mewn i isolator, sef lle hyd yn oed glanach na’r clean rooms 'ma, a wedyn mae’n cael eu llenwi mewn i ampoules.
“O hynny mae’r cynnyrch y ni’n creu yn y cwmni yn mynd dros y byd i gyd.”

Yn wreiddiol o Eglwyswrw fe symudodd Joe Snow yn ôl i’w ardal leol tua phum mlynedd yn ôl, a hynny ar ôl treulio degawd yn gweithio ac astudio yn y diwydiant dros y ffin yn Lloegr.
Ag yntau’n gweithio fel rheolwr ansawdd yn MicroPharm mae’n dweud ei fod yn teimlo boddhad ar ôl cael dychwelyd adref gan barhau i weithio yn y maes.

“Mae fe’n hollol wobrwyol i fi i symud nôl, cael plant fi tyfu lan ble o’n i ‘di tyfu lan ond ‘neud swydd high-skilled.
“Y peth dwi’n mwynhau'r mwyaf yw cael pobl ifanc mewn a datblygu sgiliau nhw a dod a nhw nôl i’r sir os maen nhw wedi symud i ffwrdd neu cael pobl syth o’r ysgol a datblygu sgiliau nhw a rhoi siawns i nhw i neud swyddi high-skilled gytre.”
Wedi iddo dreulio 10 mlynedd yn byw y tu allan i Gymru, mae’n dweud ei fod yn falch o allu defnyddio ei Gymraeg yn y gwaith unwaith eto.
“Mae fe’n hollol wobrwyol i siarad Cymraeg a defnyddio’r Gymraeg mewn professional capacity,” ychwanegodd.