Newyddion S4C

‘Au revoir’: Geraint Thomas yn cychwyn y Tour de France am y tro olaf

Geraint Thomas / Seiclo

Mae’r Cymro Geraint Thomas yn cychwyn y Tour de France am y tro olaf ddydd Sadwrn.

Fe ddechreuodd Thomas, sy’n 39 oed, ei ras gyntaf yn 2007 ac mae wedi cystadlu mewn 13 ras ers hynny. 

Mae wedi sefyll ar bob gris y podiwm ar y Champs-Elysées ar ddiwedd y ras, gan ennill yn gofiadwy yn 2018. 

Dywedodd Thomas: “Iawn te, Tour de France #14.

"Mae'r emosiynau a'r teimladau'r diwrnod cynt yr un fath ag yr oeddent 18 mlynedd yn ôl pan taw fi oedd y ieuengaf. 

"Nawr fi yw'r hynaf, rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud wrthyf sawl gwaith. Fedra i ddim aros i gychwyn gyda'r bechgyn. Un tro olaf.  Welai chi allan yna."

Mewn cyfweliad gyda TNT Sports dywedodd Thomas ei fod “ychydig yn nerfus” yn enwedig oherwydd bu’n rhaid iddo adael Tour de Suisse gydag anaf yn ddiweddar.

Dywedodd: "Rwy'n teimlo ychydig yn bryderus. Rwy'n teimlo ychydig fel 2007 eto, dim ond ychydig yn nerfus, ddim yn siŵr beth i'w ddisgwyl yn iawn.

"Rwy'n teimlo fy mod i wedi gweithio'n galed i fod mewn siâp da. Yn amlwg, byddai wedi bod yn braf cwblhau'r Swistir a chael hynny yn y coesau.

"Rwy'n edrych ymlaen ato'n fawr. Gobeithio y byddwn ni'n cael ras dda i mi a'r tîm." 

Fe gyhoeddodd Thomas ym mis Chwefror y bydd yn ymddeol o fyd y seiclo ddiwedd y tymor.

Fe yw'r Cymro sydd wedi cael y mwyaf o lwyddiant yn y gamp gan ennill dwy fedal aur Olympaidd a thri theitl Pencampwriaeth y Byd i ychwanegu at deitl Tour de France yn 2018.

Tadej Pogačar o Slofenia yw’r ffefryn i ennill y ras eleni am y pedwerydd tro. Jonas Vingegaard o Ddenmarc, a enillodd y ras yn 2022 a 2023 fydd ei brif wrthwynebydd.

Mae’r ras yn cychwyn gyda’r cymal cyntaf yn Lille Métropole ddydd Sadwrn gyda’r 184 o gystadleuwyr yn ymlwybro dros 21 o gymalau a 3,320 cilomedr (2,063 milltir) cyn y diweddglo ym Mharis ar 27 Gorffennaf.

Fe fydd S4C yn darlledu’r ras yn fyw pob dydd gyda rhaglen uchafbwyntiau yn ddyddiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.