Newyddion S4C

Biliau ynni yn gostwng £129 y flwyddyn ar gyfartaledd

Bil ynni

Bydd y cap ar brisiau ynni yn gostwng 7% o ddydd Mawrth ymlaen, meddai'r rheoleiddiwr Ofgem.

Dywedodd Ofgem y bydd y bil arferol yn gostwng £129 i £1,720 y flwyddyn pan ddaw'r cap pris newydd i rym ar 1 Gorffennaf nes 30 Medi.

Dros y misoedd diwethaf roedd y cap pris, sy’n gosod y terfyn ar faint y gall cwmnïau ei godi fesul uned o ynni, tua £1,849 ar gyfer cartref.

Ond mae'r cap pris newydd 10% (£152) y flwyddyn yn uwch na'r cap pris a gafodd ei osod ar gyfer yr un cyfnod y llynedd, o 1 Gorffennaf i 30 Medi 2024 (£1,568).

Daw'r gostyngiad ar ôl i dariffau gan Arlywydd America, Donald Trump, arwain at gwymp sylweddol mewn prisiau nwy ac olew.

Fodd bynnag, mae'r gostyngiad ychydig yn llai na'r 9% a gafodd ei ragweld gan fod tensiynau masnachol wedi'u lleddfu.

Llun: Jacob King/PA Wire

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.