Newyddion S4C

Arddangosfa newydd yn rhoi cyfle i aelodau o gymunedau brodorol Patagonia ymateb i'r Wladfa

Arddangosfa newydd yn rhoi cyfle i aelodau o gymunedau brodorol Patagonia ymateb i'r Wladfa

Cyfle prin i ddal llyfr oedd ar y Mimosa.

Mae dyddiadur Joseph Seth Jones yn cofnodi hanes taith y mewnfudwyr cyntaf o Gymru.

Mae'n 160 o flynyddoedd yn ddiweddarach ac un academydd o'r Ariannin wedi arwain prosiect sy'n cofnodi safbwyntiau pobl brodorol Patagonia heddiw ynglŷn â'r Wladfa.

"Roeddwn i 'di sylwi nad oedd digon o gyfleoedd i wrando ar fersiynau amgen o sut oedd talaith Chubut wedi cael ei sefydlu.

"Roedd rol y Cymry yn Chubut yn cael ei fawreddu yn y llyfrau hanes yn yr ysgol.

"Doedd hynny ddim yn gadael llawer o le ar gyfer y brodorion."

Mae'r hyn mae aelodau o gymunedau Tehuelche yn dweud nawr mewn arddangosfa ddigidol tair-ieithog.

Mae i'w weld ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd rhannau ohoni'n heriol i'r gynulleidfa yng Nghymru.

Honiadau o ddwyn tir sydd wedi'u hadrodd i frodorion heddiw gan eu cyn-deidiau.

Ar ôl digwyddiad i lansio'r arddangosfa neithiwr dywedodd Gwilym Bowen Rhys iddo glywed sylwadau tebyg tra'n ffilmio cyfres deledu yn y Wladfa.

"O be dw i 'di darllen a gweld o'r cyfweliadau yma a'r cyfweliadau wnes i pan o'n i draw yna ddim pan oedd camerau S4C o gwmpas efo'r cymunedau brodorol mae'n amlwg bod llawer mwy i ddweud.

"Mae lot o ffeithiau fyse'n arwain i ni deimlo'n anghyfforddus."

"Nid er mwyn beio'r Cymry a rhaid pwysleisio hynny.

"Dw i ddim am ddadwneud hanes a beio'r Cymry ond rhaid i ni ystyried pethau o'n safbwynt ni er mwyn gwneud pethau'n well yn y presennol."

Mae llawer i gnoi cil arno yn yr arddangosfa sy'n cynnig persbectif gwahanol ac atgofion am brofiadau gwahanol o hanes sefydlu'r Wladfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.