Ymdrech i gynnig cefnogaeth i ddioddefwyr enodmetriosis mewn ysgol yn Aberystwyth
Ymdrech i gynnig cefnogaeth i ddioddefwyr enodmetriosis mewn ysgol yn Aberystwyth
"Wnaf fi roi'r rhain fan'na."
Y mislif. Mae e'n rhan normal o fywyd dros y byd.
Yma, yn Ysgol Penweddig mae yna gynnyrch ar gael i bwy bynnag sydd eu hangen.
"Felly, yn fan hyn, mae 'da ni'r stand pick a mix. Felly, i gychwyn fan hyn, mae 'da ni tampons.
"Mae 'da ni hefyd fan hyn, y padiau."
"So, fan hyn, mae gynnon ni trowsus, siorts a teits ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael damwain achos eu mislif.
"Mae hyn yn gallu cael gwared o embaras am unrhyw beth sydd wedi digwydd a hefyd osgoi rhywun yn gorfod gadael i fynd adre a colli addysg."
Ie, dyna nod cynllun y criw yma. Gwneud yn siwr nad ydy unrhyw un o dan anfantais.
"Mae'r ffaith bod y nwyddau ar gael i ferched erbyn hyn yn rhan o gefnogaeth sydd gyda ni fel ysgol i ddisgyblion sydd efallai ddim yn dod i'r ysgol oherwydd yr heriau yn ystod cyfnod y mislif.
"Hefyd, 'dyn ni'n gweld cynnydd erbyn hyn gyda nifer o ferched sydd fwy parod i gydnabod eu bod nhw yn dioddef o gyflyrau fel endometriosis."
Does dim modd gwella o'r cyflwr ac i rai, mae cael diagnosis yn broses hir a chymhleth.
"Yn anffodus, y'n ni mond newydd rili dysgu am endometriosis yn y sector feddygol.
"Yn anffodus, achos blynyddoedd o ddiffyg ymchwil i mewn i iechyd benywod yn gyffredinol 'dyn ni heb rili deal bod y symptomau eitha vague yma yn achosi endometriosis neu yn arwydd o endometriosis."
Bellach, mae meddygon teulu yng Nghymru yn cael eu hyfforddi i adnabod symptomau endometriosis yn gynt a hynny fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella gofal iechyd i fenywod.
"Mae yna 'di bod agwedd cymdeithasol bod y mislif yn boenus a bod menywod jyst yn gorfod delio efo'r poen yma bod menywod yn bod yn ddramatig o amgylch amser y mislif ond actiwali, 'dyn ni'n gwybod bod mislif i'r eithaf o boenmae endometriosis yn achosi ddim yn normal."
Nôl ym Mhenweddig a sicrhau bod pawb yn teimlo'n gyfforddus yw'r nod wrth hefyd gefnogi'r rheiny sy'n dioddef o endometriosis.