Newyddion S4C

Marwolaeth Tonysguboriau: Cyhuddo chweched person o lofruddiaeth

Joanne Penney
Joanne Penney

Mae chweched person wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i fenyw 40 oed gael ei saethu yn farw.

Bu farw Joanne Penney ar ôl cael ei saethu yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf ar 9 Mawrth.

Clywodd agoriad cwest ym mis Mawrth fod Ms Penney wedi marw ar ôl cael ei saethu yn ei brest, gydag anafiadau i'w chalon a'i hysgyfaint.

Roedd Kristina Ginova, 21, o Oadby, Sir Gaerlŷr, wedi ei chyhuddo yn wreiddiol o gynnig cymorth i droseddwr ond mae bellach wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Fe fydd hi’n wynebu achos llys ym mis Hydref ynghyd â saith o bobl eraill sydd wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Joanne Penney.

Mae'r cyhuddiadau yn cynnwys llofruddiaeth, cynorthwyo troseddwr a chymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol.

Dywedodd teulu mewn Joanne Penney  wrth roi teyrnged iddi: “Rydym wedi ein syfrdanu gan golled drasig ein hannwyl Joanne.

“Roedd hi'n ferch, mam, chwaer, a nith – roedd hi’n cael ei charu gan bawb oedd yn ei hadnabod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.