Newyddion S4C

Dim cefnogaeth i sioeau amaethyddol sy’n gorfod canslo yn sgil y Tafod Glas

Huw Irranca-Davies

Mae Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru wedi dweud na fydd cefnogaeth i sioeau amaethyddol sy’n gorfod canslo oherwydd clefyd y Tafod Glas.

Dywedodd Huw Irranca-Davies bod gan sioeau amaethyddol eu cynlluniau wrth gefn eu hunain rhag ofn fod angen iddyn nhw ganslo am unrhyw reswm.

Does yr un achos o’r Tafod Glas yng Nghymru ar hyn o bryd ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud cyhoeddi cyfyngiadau ar symud da byw o Loegr i Gymru.

Dywedodd y llywodraeth mai'r nod oedd dal clefyd y Tafod Glas “yn ôl cyn hired ag y gallwn”.

Mae'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eisoes wedi penderfynu gwahardd cystadleuwyr da byd o Loegr a’r Alban eleni.

Mae hynny oherwydd bod da byw wedi eu gwahardd rhag teithio drwy unrhyw barth Tafod Glas er mwyn cyrraedd y safle.

Wrth siarad yn y Senedd dywedodd Huw Irranca-Davies bod gan sioeau “eu cynlluniau wrth gefn eu hunain mewn lle”.

“Does yna ddim cefnogaeth ar gael i sioeau sy’n gwneud penderfyniad masnachol i ganslo neu sy’n ddigon anffodus i gael eu hunain o fewn parth rheoli'r tafod glas yn y dyfodol,” meddai.

Ychwanegodd: “Petai parth Tafod Glas 20km yn cael ei gyhoeddi mewn rhan o Gymru, ni fyddai sioe amaethyddol o fewn yr ardal honno yn gallu parhau.”

Ond pwysleisiodd bod Cymru “ar hyn o bryd yn rhydd o’r Tafod Glas”.

“Mae da byw Cymreig yn rhydd i symud o fewn Cymru ac i fynd i sioeau heb unrhyw gyfyngiadau o ganlyniad i’r Tafod Glas,” meddai.

“Byddwn yn argymell yn gryf bod sioeau'n ceisio cyngor milfeddygol eu hunain ynghylch y Tafod Glas, ond byddaf yn parhau i wrando arnyn nhw hefyd.”

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan Sam Rowlands AS o’r Ceidwadwyr Cymreig a ofynnodd a fyddai yna becyn cymorth ar gyfer unrhyw un o'r sioeau amaethyddol a fyddai yn cael eu heffeithio gan gyfyngiadau Tafod Glas y llywodraeth.

“Nid yn unig mae'r sioeau hyn yn bwysig o safbwynt diwylliannol i ni yma yng Nghymru, ond maen nhw hefyd yn darparu rhywfaint o fudd economaidd lleol go iawn i'n cymunedau hefyd,” meddai.

‘Cyfrifol’

Dywedodd prif weithredwr y Sioe Frenhinol, Aled Rhys Jones, wrth gyhoeddi’r penderfyniad ar raglen Ffermio eu bod nhw’n “siomedig" eu bod nhw wedi gorfod atal cystadleuwyr o’r Alban a Lloegr.

Dywedodd: “Dyna’r peth mwyaf cyfrifol i wneud. Da ni wedi bod yn dilyn y wyddoniaeth, dilyn y cyngor milfeddygol.

“Ac mi’r ydan ni’n unol â’r sioeau eraill.”

Yn yr adran ddefaid mae tua 18% yn dod o’r tu allan i Gymru. Ond mae’r Sioe Frenhinol yn gweithio trwy restr aros yn y gobaith o wahodd mwy o arddangoswyr o Gymru.

Fel arfer mae tua 40% o’r gwartheg yn dod o du allan i Gymru, meddai Mr Jones, ac y bydd yna rywfaint o golled i’r sioe o ganlyniad i golli’r ffi gofrestru.

Mae'r tafod glas yn glefyd hysbysadwy a achosir gan haint â firws y tafod glas. Mae’r firws yn cael ei ledaenu'n bennaf gan wybedyn bach sy'n brathu.

Mae firws y tafod glas yn effeithio ar ddefaid, gwartheg, cilgnowyr eraill fel ceirw a geifr, a chamelidau fel lamas ac alpacas.

Nid yw'n effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, ond gall achosion arwain at gyfyngiadau ar symud anifeiliaid am gyfnod hir a masnach.

Mae’n effeithio ar iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid. Mewn achosion difrifol, gall achosi erthyliadau a hyd yn oed marwolaeth mewn anifeiliaid heintiedig.

Un o’r symptomau yw lliw glas ar dafodau anifeiliaid oherwydd lefelau isel o ocsigen yn y gwaed.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.