Newyddion S4C

Priodferch wedi ei saethu'n farw yn Ffrainc

Goult, Ffrainc
Goult, Ffrainc

Mae priodferch 27 oed wedi cael ei saethu’n farw ar noson ei phriodas ar ôl i ddyn mewn mwgwd ymosod arni ac eraill mewn pentref yn Ffrainc.

Cafodd person sydd wedi ei amau o fod yn rhan o’r ymosodiad ei ladd yn dilyn y digwyddiad hefyd.

Mae plentyn 13 oed yn ogystal â gŵr y briodferch, 25 oed, wedi dioddef anafiadau difrifol wedi’r ymosodiad ym mhentref Goult, ger dinas Avignon yn ne-ddwyrain y wlad.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau man y bore am tua 04.30 ddydd Sul.

Fe lwyddodd nifer anhysbys o bobl oedd yn gysylltiedig â’r ymosodiad i ddianc ac mae'r heddlu yn ceisio dod o hyd iddynt.

Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau lleol, y gred yw bod yr ymosodiad yn gysylltiedig ag anghydfod oedd yn ymwneud a chyffuriau.

Mae’r heddlu wedi dweud eu bod yn ymchwilio achos llofruddiaeth a cheisio llofruddio. 

Llun: Jackie McLelland/Wikipedia

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.