Newyddion S4C

'Pam na fyddai yna newid?': Trump yn awgrymu newid arweinyddiaeth Iran

Donald Trump yn y situation room

Mae Arlywydd America Donald Trump wedi awgrymu’r posibilrwydd o newid arweinyddiaeth yn Iran. 

Dywedodd ar y cyfryngau cymdeithasol er nad oedd yn “wleidyddol gywir defnyddio’r term ‘Newid Cyfundrefn,’ os nad oedd Iran yn gallu gwneud y wlad yn wych eto pam na fyddai yna newid???”

Ond mae Ysgrifennydd Amddiffyn yn yr Unol Daleithiau, Pete Hegseth, wedi dweud bore ddydd Llun nad oedd eu hymgyrch yn Iran yn gysylltiedig â newid cyfundrefn yno. 

Mae yr Is-lywydd JD Vance hefyd wedi dweud ddydd Sul nad oes bwriad ganddynt i orfodi newid yn arweinyddiaeth Iran.

Mae ymdrechion milwrol sy’n gysylltiedig â newid cyfundrefn yn ddadleuol y tu fewn i Blaid Weriniaethol Trump.

George W Bush oedd yr Arlywydd Gweriniaethol diwethaf i ganolbwyntio ar newid cyfundrefn yn y Dwyrain Canol, a hynny’n seiliedig ar honiadau di-sail yn ymwneud ag arfau dinistriol yn Iraq. 

Daw sylwadau diweddaraf Trump wedi i’r Unol Daleithiau fomio tri o safleoedd niwclear yn Iran ddydd Sul. 

Mae wedi dweud ar ei gyfrwng cymdeithasol Truth Social bod America wedi achosi “difrod sylweddol” ar “bob safle niwclear yn Iran.” 

Bullseye!!!,” meddai. 

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio y byddai’r ymosodiad yn arwain at ryfela pellach gan ddweud y gallai digwyddiadau ddatblygu “yn gyflym iawn.” 

Dywedodd Gweinidog Tramor y DU, David Lammy, nad oedd y DU wedi cymryd rhan yn yr ymosodiadau hyn ac mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi galw am ragor o drafodaethau.  

Mae’r gwrthdaro wedi parhau yn y Dwyrain Canol dros nos. 

Yn ôl adroddiadau’r BBC mae 20 o jetiau Israel wedi bod yn ymosod ar Iran gan dargedu storfeydd ar gyfer taflegrau yn ogystal â systemau lloeren.

Y gred yw bod Iran wedi tanio un taflegryn yn unig tuag at Israel dros nos, a hynny yn ystod oriau man y bore am tua 03.00 amser lleol  (00:00 BST).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.