Newyddion S4C

Bangor: Seiclwr ag 'anafiadau difrifol' wedi gwrthdrawiad

23/06/2025
Cylchfan Parc Menai

Mae seiclwr wedi cael “anafiadau difrifol” mewn gwrthdrawiad ym Mangor ddydd Sul. 

Cafodd yr heddlu wybod am wrthdrawiad rhwng person ar feic a char Mazda MX5 ar ffordd yr A487 Bryn Faenol am 14.09 brynhawn ddydd Sul. 

Fe gafodd y seiclwr ei gludo i Ysbyty Gwynedd.

Roedd ffordd yr A487/cylchfan Parc Menai ar gau am gyfnod. A doedd dim modd teithio ar hyd y ffordd tuag at Ysbyty Gwynedd.

Cafodd yr holl ffyrdd eu hail-agor toc cyn 16.00 ddydd Sul, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.