Gareth Bale ‘wedi trio prynu Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd’
Roedd cyn gapten Cymru, Gareth Bale, yn rhan o gynnig ym mis Mai i brynu Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, yn ôl adroddiadau.
Yn ôl The Athletic roedd yn rhan o grŵp a wnaeth gysylltu yn uniongyrchol â pherchennog yr Adar Gleision, Vincent Tan.
Fe gafodd y cynnig ei wrthod gan y dyn busnes o Malaysia.
Nid yw Caerdydd, a gollodd eu lle yn y Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor, wedi cynnig sylw.
Roedd sïon y byddai Bale yn chwarae i Gaerdydd ar ôl ei gyfnod gyda Real Madrid ond symudodd i Los Angeles FC yn yr MLS yn lle.
Mae adroddiadau hefyd ei fod yn rhan o ymgais arall i brynu clwb yn Adran Un, Plymouth Argyle.