Chris Brown yn y llys oriau'n unig ar ôl perfformio yng Nghaerdydd
Mae’r canwr R&B byd-enwog Chris Brown wedi pledio’n ddieuog mewn llys ar ôl iddo gael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol mewn ymosodiad honedig yn 2023.
Fe ymddangosodd y cerddor 36 oed o America, yn Llys y Goron Southwark yn Llundain bore Gwener, oriau yn unig ar ôl iddo berfformio yn y brifddinas nos Iau.
Y perfformiad yn Stadiwm Prinicipality oedd ei drydedd cyngerdd yn y Deyrnas Unedig eleni, ar ôl perfformio ddwy waith ym Manceinion – a hynny fel rhan o’i daith Breezy Bowl XX.
Fe ymddangosodd yn y llys i wynebu cyhuddiad o geisio achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, mewn ymosodiad honedig ar Abraham Diaw yng nghlwb nos Tape yn ardal Mayfair o Lundain ar 19 Chwefror 2023.
Cadarnhaodd ei enw a’i ddyddiad geni cyn pleidio’n ddieuog. “Ddim yn euog, ma’am,” meddai.
Mae disgwyl i achos llys ddechrau ar Hydref 26, 2026, ac mae disgwyl i'r achos bara am bump i saith niwrnod.
Mae Omololu Akinlolu o’r Unol Daleithiau hefyd yn wynebu’r un cyhuddiad. Roedd y gŵr 29 oed hefyd wedi pledio’n ddieuog.
Mae’r ddau ohonynt hefyd wedi eu cyhuddo o achosi niwed corfforol i Mr Diaw.
Mae Mr Brown hefyd wedi ei gyhuddo o fod ag arf – sef potel – mewn man cyhoeddus.
Llun: Jordan Pettitt/PA Wire