‘Angen bod yn fwy diolchgar’ am arian llywodraeth y DU i reilffyrdd Cymru medd gweinidog
Mae un o weinidogion Llywodraeth y DU wedi dweud bod “angen bod yn fwy diolchgar” am yr arian y maen nhw wedi ei roi i reilffyrdd yng Nghymru.
Daw sylwadau Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Darren Jones wedi i’r llywodraeth gyhoeddi y bydd Cymru yn derbyn buddsoddiad o £445m ar gyfer prosiectau rheilffyrdd newydd dros gyfnod o 10 mlynedd.
Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Gymru, yr AS David Chadwick, bod ei ymateb yn “frawychus o drahaus”.
Roedd Cymru wedi cael yn sylweddol llai o arian i’w wario ar drafnidiaeth na rhai ardaloedd eraill fel Manceinion a dderbyniodd £2.5 biliwn, meddai.
Wrth ymateb iddo yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Darren Jones: “Mae yna wahaniaeth allweddol - dan y llywodraeth ddiwethaf doeddech chi heb gael ceiniog.
“Dyma fantais dwy lywodraeth Lafur yn gweithio gyda’i gilydd dros bobl Cymru - a dylai fod yn fwy diolchgar yn y dyfodol.”
Dywedodd David Chadwick bod ei ateb yn “dangos y diffyg cysylltiad” rhwng Llafur a Chymru.
“Mae Llafur wedi rhoi briwsion i Gymru o ran cyllid rheilffyrdd yn yr Adolygiad Gwariant,” meddai.
“Ond mae’r Gweinidog yn dweud y dylen ni fod yn ddiolchgar am yr ychydig y maen nhw wedi’u cynnig i ni. Mae’n gwbl anghredadwy.”
Dyw buddsoddi mewn rheilffyrdd ddim yn faes sydd wedi ei ddatganoli i Gymru. Mae hynny yn golygu bod y buddsoddiad ychwanegol yn dod o gronfa’r Adran Drafnidiaeth.
Mae’r arian yn dod wedi ffrae ynghylch y diffyg arian sy'n dod i mewn i Gymru o ganlyniad i brosiectau rheilffordd yn Lloegr.
Mae’r rheini wedi cynnwys HS2, sy'n costio dros £60bn, a'r llinell rhwng Dwyrain a Gorllewin Caergrawnt a Rhydychen sydd i gostio £6bn - y ddau wedi eu dynodi yn brosiectau 'Cymru a Lloegr'.