Poeni na fydd materion 'llawr gwlad' yn derbyn sylw yn ymchwiliad cyhoeddus i gangiau cam-drin plant
Poeni na fydd materion 'llawr gwlad' yn derbyn sylw yn ymchwiliad cyhoeddus i gangiau cam-drin plant
Yn gynharach yn y flwyddyn wnaeth Syr Keir Starmer ddiystyru galwadau am ymchwiliad cyhoeddus.
Dadlodd fod adroddiad blaenorol wedi edrych yn drylwyr ar y mater.
Mae o nawr yn cael ei gyhuddo o dro pedol ar ôl cyhoeddi y bydd yna nawr ymchiliad statudol llawn i gangiau cam-drin plant yng Nghymru a Lloegr.
A hynny yn sgil adolygiad gan y Farwnes Louise Casey.
Yn San Steffan heddiw, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref bod yr adolygiad wedi amlinellu maint y broblem.
"At its heart, she identifies a deep-rooted failure to treat children as children."
Dywedodd luoedd heddlu Cymru wrth Lywodraeth Cymru yn ddiweddar nad oes problem presennol gyda gangiau o'r math yma yng Nghymru.
Mae Helen Mary Jones sy'n gweithio gyda dioddefwyr yn anghytuno gan ddadlau ei fod e'n broblem systemig.
"'Dan ni fel elusen yn dal i gefnogi merched a weithiau bechgyn sy'n cael eu traffic o un dinas i'r llall.
"O Gaerdydd i lefydd fel y Midlands yn Lloegr. Mae'r effaith arnyn nhw'n hynod o ddifrifol.
"'Dan ni'n gweld enghreifftiau da o gydweithrediad rhwng yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol ac elusennau.
"Ond, mae hefyd enghreifftiau lle gall merched wedi cael eu hachub os oedd pobl wedi siarad â'i gilydd.
"Dw i'n poeni bydd ymchwiliad mawr arall a'r pethau bach, manwl ar lawr gwlad dal ddim yn cael eu gwneud."
Dach chi 'di son bod awdurdodau yn methu hyn. Ym mha ffordd maen nhw'n methu a helpu rhai o'r merched?
"Un o'r prif bethau yw bod y bai yn mynd nol ar y person ifanc.
"'Dan ni'n son am blant fan hyn!
"Mae tueddiad i weld y person sy'n dioddef yn broblem nid sefyllfa nhw.
Yn ogystal ag ymchwiliad cenedlaethol mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cyfreithiau newydd i warchod plant.
Mwy o ddata ac ymchwil ynglyn a hil troseddwyr a chamau pellach i adnabod y plant all gael eu hecsploitio.
Y nod yw newid y drefn sydd wedi methu cymaint.
"Beth sy'n wahanol yn fwy difrifol am ymchwiliad cenedlaethol ydy bod grymoedd yr ymchwiliad cymaint mwy.
“Cawn nhw orfodi tystioni roi tystiolaeth. Cawn nhw orfodi sefydliadau i rannu dogfennau."
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar yn dweud ei bod hi'n hen bryd cynnal ymchwiliad o'r fath.
Mae'n cyhuddo gwleidyddion eraill o geisio ei dawelu pan alwodd am ymchwiliad penodol i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn ei groesawu a bydden nhw'n ystyried argymhellion o adolygiad y Farwnes Casey cyn gweithredu.
Mae cydnabyddiaeth y bydd yn cymryd amser i sefydlu'r ymchwiliad.
Ond mae'r rhai sy'n gweithio gyda dioddefwyr yn rhybuddio bod angen gweithredu nawr i warchod plant.