Newyddion S4C

Casnewydd: Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio

Ffordd Caerllion

Mae dyn 42 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i iddo ef ac un dyn arall gael eu cludo i'r ysbyty.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i "ddigwyddiad" rhwng dau ddyn ar Ffordd Caerllion yng Nghasnewydd tua 19:00 nos Sul.

Bu rhaid i'r ddau ddyn gael eu cludo i'r ysbyty er mwyn derbyn triniaeth.

Nid yw eu hanafiadau yn rhai sydd yn bygwth eu bywydau ac fe gafodd y ddau eu rhyddhau o'r ysbyty yn ddiweddarach.

Cafodd un o'r dynion oedd yn 42 oed ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae'r dyn arall sydd yn 33 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o affräe.

Dywedodd Heddlu Gwent bod y ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa tra bod eu hymholiadau’n parhau.

Roedd rhan o'r ffordd ar gau am gyfnod ond mae bellach wedi ailagor.

Dywedodd y ditectif prif arolygydd Ellen Joslyn nad yw hi'n credu bod bygythiad pellach i'r cyhoedd wedi'r digwyddiad.

"Rydym yn deall bod gweld nifer fawr o swyddogion yn yr ardal yn achosi pryder, ond nid ydym yn credu bod bygythiad pellach i'r cyhoedd," meddai.

"Mae ein hymholiadau'n parhau er mwyn deall beth ddigwyddodd.

"Os oes gennych chi unrhyw bryderon, plîs siaradwch gyda ni."

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau cylch cyfyng gysylltu gyda'r heddlu trwy eu gwefan, ffonio 101 neu ddanfon neges i'w cyfrifon Facebook neu X a dyfynnu'r cyfeirnod 2500188993.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.