Newyddion S4C

Blwyddyn o seibiant i Ŵyl Fwyd Caernarfon yn 2026

Blwyddyn o seibiant i Ŵyl Fwyd Caernarfon yn 2026

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cymryd blwyddyn o seibiant yn 2026, meddai’r trefnwyr.

Dywedodd y trefnwyr ei fod yn benderfyniad “anodd ond angenrheidiol” yn sgil yr ŵyl “fwyaf llwyddiannus hyd yma” eleni.

Roedd tua 40,000 o bobl wedi ymweld â’r ŵyl eleni a llynedd. Ers i’r ŵyl ddechrau ym mis Mai 2016, mae wedi bod y rhad ac am ddim i bawb fynychu.

“Mae’n anodd cyfleu cost ddynol trefnu gŵyl ar y raddfa hon,” meddai'r trefnwyr.

“Rydan ni fel gwirfoddolwyr wedi rhoi oriau diddiwedd o'n hamser, ein hegni, a’n hangerdd i wneud pob gŵyl yn llwyddiant. 

“Fodd bynnag, mae rhai gwirfoddolwyr allweddol angen camu o’r neilltu yn y flwyddyn i ddod, ac rydym yn cydnabod bod y model presennol yn gosod baich anghynaladwy ar y rhai sy'n aros.”

Ychwanegodd y trefnwyr eu bod nhw "am sicrhau pobl y dref nad yw Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dod i ben".

"Rydym yn benderfynol o ddychwelyd yn 2027 gyda gŵyl well a mwy cynaliadwy."

Bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd trwy gydol 2026, medden nhw.

"Mae llawer o wyliau llwyddiannus yn cymryd seibiannau strategol i sicrhau eu hirhoedledd," medden nhw.

"Mae'n well cymryd seibiant rŵan i ail-gynllunio na risgio llosgi allan, a allai arwain at ddiwedd parhaol y ŵyl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.