Newyddion S4C

11 wedi marw mewn ymosodiad saethu mewn ysgol yn Awstria

11 wedi marw mewn ymosodiad saethu mewn ysgol yn Awstria

Mae 11 o bobl wedi marw yn dilyn ymosodiad saethu mewn ysgol yn Awstria. 

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ysgol uwchradd Dreierschützengasse yn ninas Graz, sydd tua 200km o’r brifddinas Vienna, am tua 10.00 y bore amser lleol (09.00 BST).  

Dyn 21 oed o Awstria o ardal Graz oedd y troseddwr, yn ôl swyddogion heddlu lleol.

Mae disgyblion ac o leiaf un oedolyn ymhlith y rheiny sydd wedi marw ac mae nifer o bobl wedi cael eu hanafu hefyd, meddai’r heddlu yno. 

Mae’r llu hefyd wedi cadarnhau bod yr ymosodwr, oedd yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol, wedi marw. 

Y gred yw ei fod wedi lladd ei hun yn nhoiledau'r ysgol yn dilyn yr ymosodiad. 

Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau lleol yn Awstria, mae o leiaf 30 o bobl yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty. 

Mae maer dinas Graz, Elke Kahr wedi disgrifio’r ymosodiad fel “trasiedi ofnadwy".

Mewn datganiad ar y cyfrwng cymdeithasol X, dywedodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen ei bod hi wedi ei thristhau o glywed y newyddion.

“Symbol o ieuenctid, gobaith a’r dyfodol yw ysgolion," meddai.

“Mae fy meddyliau gyda'r dioddefwyr, eu teuluoedd, a’u ffrindiau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.