Rhybudd melyn am gawodydd trwm a mellt a tharanau yn y de
Mae disgwyl cawodydd trwm a mellt a tharanau yn rhai o siroedd y de ddydd Sadwrn.
Mae rhybudd melyn mewn grym i 14 o siroedd.
Bydd y rhybudd yn dod i rym am 09:00 ac yn parhau tan 18:00.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai cawodydd, mellt a tharanau yn gallu arwain at oedi ar y ffyrdd.
Maen nhw'n rhybuddio am amodau gyrru heriol oherwydd dŵr ar y ffordd a chenllysg yn disgyn.
Hefyd mae'n bosibl y bydd oedi i wasanaethau trên a bws.
"Bydd disgwyl cawodydd trwm yn aml a mellt a tharanau rhan fwyaf o'r dydd," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
"Fe allai 10-15mm o law ddisgyn mewn cyfnod o awr, gyda 30-40mm mewn rhai mannau.
"Bydd mellt yn aml a gwyntoedd cryfion yn ogystal."
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerffili
- Caerdydd
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen