Newyddion S4C

Ynys Môn: Arestio dau ar amheuaeth o ladrata a bod ag arfau yn eu meddiant

Lladrata Môn

Mae dau ddyn wedi eu harestio dan amheuaeth o ladrata a bod ag arfau yn eu meddiant ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, fore Gwener.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i’r safle ar Ffordd Tysilio, Porthaethwy tua 9yb ar 6 Mehefin wedi adroddiadau fod arfau wedi eu gweld.

Fe gafodd dynion lleol 30 oed a 21 oed eu harestio ar amheuaeth o fyrgleriaeth ac o fod ag arfau yn eu meddiant.

Mae nifer o arfau wedi cael eu hadfer yn ystod chwiliadau’r heddlu sy'n parhau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Arwel Hughes: “Mae dau ddyn yn parhau yn y ddalfa tra bod ein hymholiadau’n parhau.

“Rwy’n ddiolchgar i’r trigolion am eu cefnogaeth a’u hamynedd y bore yma yn ystod yr ymgyrch.”

Ychwanegodd na fydd yn goddef ymddygiad treisgar a’u bod am fynd ar drywydd unigolion sy’n ceisio achosi dioddefaint i drigolion eraill a chymunedau.

“Bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau tra byddwn yn cynnal ein hymchwiliadau.” meddai.

“Bydd gweithgaredd plismona pellach yn cael ei gynllunio yn yr ardal yn y dyfodol, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am eu hardal leol i gysylltu â ni”

Ychwanegodd y gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am arfau yn eu hardal gysylltu â’r heddlu drwy eu gwefan , neu drwy ffonio 101.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.