Chwilio am leoliad ar gyfer cynnal Eisteddfod yr Urdd yng Ngwynedd
Mae'r Urdd wedi dweud eu bod nhw'n croesawu cynnig Cyngor Gwynedd i gynnal Eisteddfod yr Urdd yn y sir 2028 a'u bod nhw wedi dechrau chwilio am leoliad.
Fe wnaeth aelodau o gabinet Cyngor Gwynedd bleidleisio ddechrau'r mis o blaid gwahodd Eisteddfod yr Urdd i’r sir.
Yn ystod y bleidlais, fe wnaeth y Cabinet hefyd gymeradwyo’r penderfyniad i gyfrannu £200,000 o’r gronfa trawsffurfio tuag at gostau cynnal yr ŵyl.
Wrth siarad yn yr Eisteddfod ddydd Iau, dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau i'r Urdd, eu bod nhw "wrth ein bodd o glywed bod aelodau cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno'n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd 2028".
"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i’r awdurdod lleol am ddangos cymaint o gefnogaeth i'r mudiad a'r ŵyl ieuenctid fel ei gilydd," meddai.
“Rydym wrthi’n trafod lleoliadau posib ar gyfer cynnal yr Eisteddfod. Edrychwn ymlaen at gadarnhau union safle’r ŵyl mewn cyfarfod cyhoeddus dros yr haf ac i ddechrau trefnu gyda gwirfoddolwyr lleol.”
'Manteisio'
Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Gwynedd oedd Y Bala yn 2014, a chyn hynny Glynllifon ger Caernarfon yn 2012 a Llŷn yn 1998.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae’n fraint gallu cadarnhau fod Cyngor Gwynedd yn gwahodd Eisteddfod yr Urdd i’n sir yn 2028.
"Mae gan Wynedd hanes hir a llewyrchus o fod yn cydweithio gyda’r Urdd ac o groesawu ieuenctid o bob rhan o Gymru a thu hwnt yma am yr wythnos liwgar llawn hwyl.
"Rydan ni’n edrych ymlaen i fod y trafod yr holl bosibiliadau gyda’r mudiad dros y misoedd nesaf er mwyn gwneud yn siŵr bydd yr ŵyl yn 2028 yr orau eto."