Newyddion S4C

Thames Water yn derbyn y ddirwy fwyaf erioed gan Ofwat

thames water.jpg

Mae Thames Water wedi derbyn dirwy o £122.7 miliwn am dorri rheolau yn ymwneud â gweithrediadau carthffosiaeth a thaliadau i gyfranddalwyr.

Dyma'r gosb fwyaf erioed sydd wedi ei chyhoeddi gan y rheoleiddiwr dŵr Ofwat.

Dywedodd Prif Weithredwr Ofwat, David Black: "Mae ein hymchwiliad wedi datgelu cyfres o fethiannau gan y cwmni i adeiladu, cynnal a gweithredu seilwaith digonol i gyflawni ei rwymedigaethau."

Bydd yn rhaid i'r cwmni dalu £104.5 miliwn am dorri rheolau yn ymwneud â gweithrediadau carthffosiaeth, a £18.2 miliwn ychwanegol am dorri rheolau yn ymwneud â thaliadau i gyfranddalwyr.

Ychwanegodd Mr Black: "Ni fyddwn ni'n derbyn pan fydd cwmnïau yn talu difidendau (dividends) annheilwng i’w cyfranddalwyr."

Dywedodd Ofwat fod angen i'r arian gael ei dalu gan y cwmni a'i fuddsoddwyr, yn hytrach na chwsmeriaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Thames Water: "Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd o ddifrif ac yn nodi bod Ofwat yn cydnabod ein bod eisoes wedi gwneud cynnydd i fynd i'r afael â materion a gafodd eu codi yn yr ymchwiliad yn ymwneud â gorlifoedd stormydd."

Mae'r cwmni yn gwasanaethu tua chwarter o boblogaeth y DU, y mwyafrif yn Llundain a rhannau o dde Lloegr, ac yn cyflogi 8,000 o bobl. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.