Gwell cysylltiad â’r we mewn rhannau o Gymru
Mae bron i 30 o fastiau ffôn (mobile masts) a oedd gynt yn gallu cael eu defnyddio gan unigolion i ffonio 999 a chwsmeriaid EE yn unig, wedi eu huwchraddio i weithio gyda phob gweithredwr rhwydwaith symudol.
Y bwriad yw cyflwyno rhwydweithiau 4G “cyflym” a “dibynadwy” i gymunedau anghysbell gan fod o fudd i drigolion lleol ac ymwelwyr.
Daw fel rhan o gynllun gan Lywodraeth y DU i geisio cefnogi twristiaeth leol a thwf economaidd rhai ardaloedd yng Nghymru.
Mae’r llywodraeth yn gobeithio y bydd yn rhoi hwb i ddiogelwch pobl ar eu gwyliau. Maent hefyd yn dweud y bydd yn rhoi cyfleoedd economaidd i gymunedau mewn ardaloedd ynysig yng Nghymru, gan gynnwys parciau cenedlaethol fel Eryri a Bannau Brycheiniog.
Bydd rhannau o Aberhonddu, Dwyfor Meirionnydd, Sir Fynwy, Ceredigion a Chaerfyrddin hefyd yn elwa o’r newidiadau.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae gan rai o ardaloedd gwledig mwyaf poblogaidd Cymru fynediad rhyngrwyd symudol cyflym a dibynadwy bellach.”
“Mae cysylltedd dibynadwy yn bwysig ar gyfer pob agwedd ar fywyd yng nghefn gwlad Cymru a bydd yn rhoi hwb i’r economi leol drwy gefnogi ein sector twristiaeth hanfodol.”
Dywedodd Ben Roome, Prif Swyddog Gweithredol Mova bod y datblygiad yn “garreg filltir fawr ar gyfer darpariaeth symudol yng nghefn gwlad.”