
Bangor: Gwrthod cynllun i adeiladu llety gwyliau a phodiau glampio
Mae cynllun i adeiladu llety gwyliau a phodiau glampio ger coetir ym Mangor wedi cael ei wrthod.
Roedd dros 5,000 o bobl yn gwrthwynebu'r cais, ac mae bellach wedi cael ei wrthod yn swyddogol, saith mlynedd ers i'r cynlluniau gael eu cyflwyno gyntaf.
Fe wnaeth Luxury Lodge Group Ltd gyflwyno cais i godi 25 llety gwyliau a phedwar pod glampio yng Nghoed y Wern, Glasinfryn ger Bangor.
Cafodd y cynllun ei ohirio tan ymweliad i'r safle ar 28 Ebrill.
Nododd rhan o'r cais bod y cynnig gwreiddiol wedi newid lleoliad "er mwyn osgoi ardal sy'n fwy sensitif yn ecolegol" a bod nifer y podiau wedi ei leihau o 11 i bedwar.
'Anaddas'
Cafodd y cynllun ei wrthod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd er gwaethaf argymhelliad gan swyddogion i'w gymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Beca Roberts wrth y pwyllgor bod y llety a'r podiau yn mynd "tu hwnt i ddatblygiad 'bach'."
Fe wnaeth hi annog gwrthod y cais ar sail "gor-ddatblygu, y ffordd brysur, beryglus" yn ogystal â diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, effaith ar y gymuned a'r tirwedd a bod y lleoliad yn "anaddas."
Ychwanegodd y byddai unrhyw elw yn "mynd yn syth i bencadlys Luxury Lodge ym Manceinion" a bod 100 o letyau gwyliau eisoes ar gael ym Mharc Ogwen Bank ym Methesda.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones y byddai'r cabanau'n "fawr, gyda thri gofod i wlâu a lle i o leiaf dau deulu gyda dau neu dri o geir."
"Byddwn yn colli coed. Dydw i ddim yn siŵr am ba hyd maen nhw wedi bod yno, ond maen nhw'n goed hyfryd ac fe fyddai'n siom eu torri nhw lawr i greu cabanau."
Ychwanegodd fod dros 5,000 o bobl wedi gwrthwynebu'r cais dros e-bost.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, roedd gwrthwynebiadau blaenorol wedi tynnu sylw at yr effaith ar goed, colli coetir hynafol, bioamrywiaeth, llifogydd, traffig, diogelwch ffyrdd, gormod o lety gwyliau, effaith ar drigolion, gorddatblygiad, gordwristiaeth, ac effaith ar gymunedau lleol a'r iaith Gymraeg.
Yn 2018, roedd Cyngor Cymuned Pentir yn bryderus ynghylch maint y datblygiad a'i effaith ar ystâd Bro Infryn ac am draffig a diogelwch ffyrdd.
Yn 2023, fe wnaeth Cyngor Cymuned Llandygai argymell gwrthod ar y sail bod "mwy na digon" o lety gwyliau yn yr ardal.