'Anhygoel': Myfyrwyr meddygol Bangor yn dysgu Cymraeg fel sgil glinigol
Mae myfyrwyr meddygol ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn dysgu Cymraeg fel sgil glinigol am y tro cyntaf.
Bwriad y cwrs 'Mwy na Geiriau: y Gymraeg fel sgil glinigol' yw paratoi myfyrwyr i weithio mewn rhanbarth lle mae’r iaith Gymraeg yn iaith gyntaf i nifer.
Cafodd y cwrs ei gynnal gan Ganolfan Bedwyr y brifysgol mewn cydweithrediad â'r Ysgol Feddygol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Roedd y cwrs yn darparu gwersi iaith yn ogystal â hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i fyfyrwyr meddygol blwyddyn gyntaf.
Cafodd y myfyrwyr gyfle i ddatblygu geirfa ac ymadroddion penodol i faes meddygaeth dros ddau semester o sesiynau wythnosol.
Yn dilyn hynny roedd cyfle iddyn nhw roi eu sgiliau ar waith yn ystod eu lleoliadau cyntaf mewn cyfleusterau meddygol.
'Anhygoel'
Un o'r myfyrwyr oedd Mustafa Al-Bazooni o Fanceinion aeth ar leoliad gwaith mewn meddygfa ym Mhenrhyndeudraeth.
Dywedodd bod cwblhau'r cwrs wedi bod yn brofiad "anhygoel".
"Mae’r cwrs wedi rhoi cymaint o brofiad i mi o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg – mae wedi bod yn anhygoel," meddai.
"Mae’n mynd i fy helpu i greu amgylchedd mwy cyfforddus i gleifion. Hyd yn oed os mai dim ond drwy ddweud ‘ti’n iawn?’ neu ‘bore da’, mi fydd yn mynd yn bell i wella ein sgiliau cyfathrebu efo nhw."
Mae Dr Nia Jones, deon meddygaeth yr Ysgol Feddygol, yn dweud bod dysgu'r iaith yn "bwysig" i fyfyrwyr yn y maes.
"Fel meddyg sy’n siarad Cymraeg fy hun, rwy’n gweld pwysigrwydd ymgorffori’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y rhaglen feddygol," meddai.
"Mae’r cwrs hwn yn caniatáu i’n myfyrwyr meddygol ddeall y cleifion y maen nhw’n eu hwynebu a’u paratoi ymhellach i weithio mewn cyd-destunau dwyieithog."
Yn dilyn llwyddiant y cwrs, bydd yn cael ei gyflwyno i bob myfyriwr meddygol blwyddyn gyntaf ar gyrsiau meddygaeth ym Mangor o fis Medi ymlaen.