Cefnogi clybiau pêl-droed Cymru mewn hyfforddiant iechyd meddwl
Bydd pob clwb pêl-droed yng Nghymru yn gallu cael mynediad at un o tua 1,000 o leoedd hyfforddi ymwybyddiaeth iechyd meddwl yn y dyfodol.
Mae'r cam yn rhan o ymgyrch i "gefnogi clybiau yn well fel eu bod nhw’n gallu cefnogi eu timau, eu hyfforddwyr, eu chwaraewyr a'u cymuned ehangach" meddai'r trefnwyr.
Bydd y cwrs e-ddysgu gan Mind Cymru ac UK Coaching yn cael ei gyflwyno i glybiau pêl-droed i ddechrau gyda chefnogaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Er y bydd y ffocws cychwynnol ar ddarparu'r hyfforddiant ymwybyddiaeth hwn er mwyn medru gweithredu'n syth, mae Chwaraeon Cymru yn datblygu dull tymor hirach sy'n mynd i'r afael â stigma, ffactorau risg a chreu amgylcheddau sy'n cefnogi iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol i'r sector chwaraeon cyfan.
Bydd y cwrs yn helpu i greu "amgylchedd cadarnhaol lle gall pawb fwynhau manteision bod yn egnïol a theimlo eu bod yn cael eu hannog i ddychwelyd."
Daw'r cyhoeddiad yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl [12 – 18 Mai].
Cynhaliwyd digwyddiad lansio yng Nghlwb Pêl-droed y Barri ddydd Iau gyda'r cyn-bêl-droediwr rhyngwladol a llysgennad Cymdeithas Bêl-droed Cymru Neville Southall, y Gweinidog Chwaraeon Jack Sargeant, a'i gynnal gan Ysgrifennydd Clwb Tref y Barri, David Cole.
Achos personol
Mae'n achos personol iawn i Jack Sargeant ac yn un sy’n agos iawn at ei galon.
Daeth Jack yn wleidydd ar ôl camu i fyny i lenwi esgidiau ei dad Carl fel Aelod o'r Senedd (MS) dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn dilyn ei hunanladdiad yn 2017.
Yna yn 2022 cymerodd ei ffrind gorau o 20 mlynedd a'i gyd-gefnogwr pêl-droed, Jamie Wynne, ei fywyd ei hun hefyd.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog: "Mae'n golygu cymaint i mi allu hybu'r rhaglen hyfforddi hon a sefydlu rhywbeth a fydd wir yn helpu pobl, yn enwedig nawr yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl.
"Dydy hwn ddim yn bwnc hawdd i mi siarad amdano, ond dw i’n gwybod bod helpu pobl i rannu yn bwysig a dyma'r ffordd orau y gallaf gofio fy ffrind, Jamie, a oedd mor angerddol am y daioni y gallai pêl-droed da ar lawr gwlad ei wneud.
"Dw i eisiau gwneud unrhyw beth a phopeth y gallaf i sicrhau y gallwn ni helpu'r rhai sydd angen cymorth yn y ffordd orau bosibl, waeth beth fo'r lleoliad. Mae defnyddio chwaraeon ac yn enwedig pêl-droed yn y modd hwn yn ffordd o gyrraedd pobl ar lawr gwlad sydd ddim yn draddodiadol yn siarad am eu teimladau fel arall. Os yw'n arwain at un sgwrs ystyrlon, bydd yn werth chweil."
Dywedodd Prif Hyfforddwr tîm pêl-droed dynion Cymru, Craig Bellamy, sy'n cefnogi'r gwaith hwn: "Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd yr amser i godi ein hymwybyddiaeth a'n dealltwriaeth o iechyd meddwl a sut y gallwn gefnogi'r bobl o'n cwmpas. Bydd y cwrs e-ddysgu hwn yn helpu clybiau pêl-droed i ddeall sut y gallan nhw chwarae eu rhan wrth gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth a byddwn yn annog pob clwb yng Nghymru i gymryd rhan a manteisio ar yr hyfforddiant hwn."