Newyddion S4C

Scarlets a'r Gweilch 'wedi siomi' na fydd pedwar clwb rygbi'n 'cael eu hariannu'n gyfartal'

19/05/2025
Undeb Rygbi Cymru

Mae’r Scarlets a’r Gweilch yn dweud eu bod nhw’n “bryderus” ac “wedi siomi” wedi i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi na fydd y pedwar prif glwb yn cael eu hariannu'n gyfartal yn y dyfodol.

Fe gyhoeddodd yr Undeb ddydd Sul eu bod nhw wedi gwneud y "penderfyniad anodd ond angenrheidiol" i roi hysbysiad dwy flynedd i ddod â'u cytundeb presennol i ben, er mwyn mynd i'r afael â'r dyledion presennol.

Fe ddaeth hynny wedi i’r Scarlets a’r Gweilch benderfynu peidio ag arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) newydd cyn y dyddiad olaf a oedd wedi ei osod.  

Mae’r Dreigiau a Rygbi Caerdydd wedi arwyddo'r cytundeb, a oedd o dan ystyriaeth ers Awst.

Bellach mae’r Scarlets a’r Gweilch wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn dweud bod y penderfyniad “sydyn” wedi creu “mwy o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd yn ein gêm.”

Maen nhw’n galw ar yr Undeb i roi “mwy o fanylion” gan ofyn am eglurhad o ran strwythur newydd os na fydd 'na bedwar clwb yn cael eu hariannu'n gyfartal bellach.

'Cwestiynau'

Dywedodd y clybiau rygbi bod ‘na bellach “gwestiynau yn cael eu gofyn gan randdeiliaid ar draws ein clybiau ac o fewn ein cymunedau ynglŷn â… dyfodol rygbi proffesiynol yng Nghymru.”

Mae’r datganiad yn dweud bod sylfaen y Cytundeb Rygbi Proffesiynol wedi “newid yn ddramatig a heb ymgynghori’n llawn.”

“Mae hyn yn mynd yn ôl ar ymrwymiadau diweddar a wnaed i'r clybiau ac i gefnogwyr rygbi Cymru.

“Mae angen safbwynt unedig a strategaeth gydlynol arnom sy'n ein galluogi i barhau i gystadlu a thyfu fel clybiau proffesiynol yng Nghymru.”

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, fe fyddan nhw'n gweithio'n agos gyda'r pedwar clwb proffesiynol er mwyn dod i gytundeb ar y ffordd orau i gamu ymlaen wedi Mehefin 2027, gydag "argymhellion adeiladol a realistig" yn cael eu hystyried. 

Mae’r Scarlets a’r Gweilch wedi dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i gydweithio gydag Undeb Rygbi Cymru er mwyn “dod o hyd i ddatrysiadau” fydd yn sicrhau dyfodol “cyfartal” i’r gamp.

Dyledion

Yn ôl adroddiadau yn y wasg, mae'r Undeb yn ystyried cwtogi'r pedwar tîm rhanbarthol i dri.

Ond doedd eu datganiad fore Sul ddim yn cadarnhau hynny.

Fe fuodd yn rhaid i Undeb Rygbi Cymru gymryd rheolaeth o glwb Rygbi Caerdydd wedi i gorff cyfreithiol y clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ym mis Ebrill.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd yr undeb eu bod yn gwahodd buddsoddwyr i ddangos diddordeb i brynu Rygbi Caerdydd.

Mae’r undeb wedi dweud y byddai yn “well ganddyn nhw” pe bai pob clwb proffesiynol yng Nghymru mewn dwylo annibynnol.

Mae gan Rygbi Caerdydd ddyledion o tua £6 miliwn i Undeb Rygbi Cymru (i'w ad-dalu erbyn 2029) ac maen nhw wedi addo talu £500,000 i eraill.

Llun: Undeb Rygbi Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.