Euro 2025: Cyhoeddi carfan Cymru ar gopa'r Wyddfa
Bydd carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth UEFA EURO Menywod 2025 yn cael ei chyhoeddi ar gopa'r Wyddfa mis nesaf.
Bydd Rhian Wilkinson yn cyhoeddi ei charfan mewn cynhadledd i'r wasg arbennig yn Hafod Eryri ar gopa uchaf Cymru ar ddydd Iau, 19 Mehefin.
Fe fydd yna nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal yn ardal Gwynedd drwy gydol y dydd ddydd Iau fel rhan o'r cyhoeddiad carfan.
Un o'r rhain fydd gŵyl bêl-droed ar gae newydd sydd wedi ei ariannu gan y Cymru Football Foundation yn Nhalysarn, a noson holi ac ateb gyda cherddoriaeth fyw.
Dyma’r tro cyntaf i dîm merched Cymru gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw gystadleuaeth ryngwladol.
Bydd Euro 2025 yn cael ei chynnal yn y Swistir ym mis Gorffennaf.
Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Rhian Wilkinson: "Bydd cyhoeddi ein carfan EUROs ar gopa Cymru yn achlysur gwirioneddol arbennig. Mae’r ardal yn agos iawn at fy nghalon ar ôl ymweld â hi’n rheolaidd gyda fy nheulu pan o'n i'n tyfu i fyny yng Nghymru, ac mae’n hefyd yn lle sy’n arbennig iawn i sawl un o’n chwaraewyr.
"Rydym yn gobeithio y bydd cynnal y digwyddiad ar y copa’n arddangos harddwch naturiol ein gwlad ac yn helpu i roi Cymru ar lwyfan byd-eang yn ystod yr EUROs dros yr haf."
Mae'r tîm hefyd yn paratoi ar gyfer eu gemau Cynghrair y Cenhedloedd olaf yn erbyn Denmarc a'r Eidal cyn y bencampwriaeth.
Llun: John Smith / Cymdeithas Bêl-droed Cymru