Joe Biden wedi cael diagnosis o ganser y prostad
Mae cyn arlywydd America, Joe Biden wedi cael diagnosis o ganser y prostad sydd wedi lledaenu i’r esgyrn.
Fe gyhoeddodd ei swyddfa y newyddion nos Sul.
Cafodd y diagnosis ddydd Gwener ar ôl profion meddygol.
Mae’r math y mae wedi cael yn un ffyrnig.
Ond mae ei swyddfa yn dweud ei fod yn ganser sydd yn “hormonaidd” gan olygu bod hi’n bosibilrwydd y bydd modd ei reoli.
Mae Biden, sydd yn 82 oed, wedi dweud ei fod yn ystyried ei opsiynau o safbwynt triniaeth.
Ers y cyhoeddiad mae wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
Yn eu plith daw'r negeseuon gan Arlywydd presennol America, Donald Trump a Phrif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer.
Daw’r newyddion bron i flwyddyn ers i Joe Biden orfod camau i lawr o’r ras Arlywyddol yn 2024 wedi pryderon am ei oed a’i iechyd. Fe wnaeth Is-Lywydd y Democratiaid, Kamala Harris, ddod yn ei le fel ymgeisydd.
Ers blynyddoedd mae Biden wedi bod yn gefnogol o ymchwil canser gan lansio menter er mwyn ceisio haneru cyfradd marwolaethau canser dros 25 mlynedd.
Fe fuodd mab hynaf Biden, Beau farw o ganser ar yr ymennydd yn 2015.