'Parti Cymraeg mwya'r Fro' yn dychwelyd i'r Barri
'Parti Cymraeg mwya'r Fro' yn dychwelyd i'r Barri
Mae 'parti Cymraeg mwyaf Bro Morgannwg' yn dychwelyd i Ynys y Barri y penwythnos hwn, wrth i Ŵyl Fach y Fro ddychwelyd am y degfed tro ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl tyrfa fawr i'r digwyddiad unwaith eto eleni wrth i'r ŵyl ddathlu penblwydd arbennig.
Fel rhan o'r dathliadau, fe fydd nifer o artistiaid lleol a chenedlaethol yn ymddangos ar Lwyfan y Traeth a Glanfa Gwynfor, gan gynnwys Bwncath, Gai Toms a Tara Bandito.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Fenter Bro Morgannwg.
Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd un o'r trefnwyr, Aled Wyn Phillips ei fod yn disgwyl gweld "cwpwl o filoedd o bobl" yn yr Ŵyl eleni.
Mae'n obeithiol y bydd yr Ŵyl yn llwyddo i "atynnu lot o bobl wahanol" yn ogystal, meddai.
“Eleni mae ‘da ni amryw o fandiau a pherfformiadau gan gynnwys Ysgol Bro Morgannwg am 1:30yh ar y Brif Lwyfan, a ‘da ni’n disgwyl cannoedd o bobl i ddod i wylio hynny.”
“Mae’r ŵyl yn atynnu teuluoedd o bob oedran ac mae’n llawn gweithgareddau gwahanol ac felly bydd hynny ynghyd a’r tywydd braf yn werth ei ymweld.”
Cafodd Menter Bro Morgannwg ei sefydlu yn Ebrill 2013, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu defnydd yr iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg drwy greu cyfleoedd i drigolion y sir ddefnyddio’r iaith tu allan i oriau gwaith a muriau ysgolion.
Dywedodd Heulyn Rees, prif weithredwr Menter Iaith Bro Morgannwg: "Mae'n fendigedig cael cefnogaeth Cyngor Tref y Barri' i'r parti Cymraeg mwyaf ym Mro Morgannwg. Eleni edrychwn ymlaen i groesawu pawb i ddigwyddiad llawn cerddoriaeth a hwyl ar Ynys Barri."