Uber yn cynnig cynllun rhannu teithiau tacsi
Mae cwmni Uber wedi cyhoeddi cynlluniau i alluogi defnyddwyr mewn dinasoedd ledled y DU i rannu ceir gyda phobl ddieithr.
Mae'r cynllun rhannu UberXShare wedi bod yn boblogaidd gyda phobl sy'n gwneud teithiau hamdden yn y nos a chymudwyr yn ystod treial ym Mryste sydd wedi rhedeg ers mis Tachwedd 2024, yn ôl y cwmni.
Mae'r gwasanaeth yn galluogi teithwyr i rannu ceir gyda defnyddwyr eraill sy'n teithio i'r un cyfeiriad, gan arbed hyd at 20% o gostau.
Dywedodd Uber ei fod wedi'i gynllunio i ychwanegu dim mwy nag wyth munud ar gyfartaledd at deithiau.
Ychwanegodd y cwmni fod paru teithwyr yn cyd-fynd â'i "ymdrechion i leihau tagfeydd ac allyriadau mewn ardaloedd trefol", gan fod rhannu teithiau yn golygu "bod angen llai o geir i gwblhau teithiau".
Dywedodd Andrew Brem, rheolwr cyffredinol Uber yn y DU, bod UberXShare yn “newid y gêm” ar gyfer teithio fforddiadwy a chynaliadwy yn y DU.
Bydd yr opsiwn ar gael ym mhob lleoliad mawr yn y DU y mae Uber yn gwasanaethu yno ac eithrio Llundain erbyn diwedd mis Mehefin.
Ni fydd yn cael ei gyflwyno yn Llundain tan yn ddiweddarach eleni oherwydd “rheoliadau lleol gwahanol”, meddai’r cwmni.