Cynnal gêm bêl-droed er cof am gyn-reolwr clwb o Wynedd
Mae gêm goffa wedi cael ei chynnal er cof am gyn-reolwr CPD Y Felinheli, Euron Davies.
Bu farw Mr Davies yn sydyn yn 46 oed ym mis Mai y llynedd.
Roedd yn byw gyda'i deulu yng Nghwm-y-glo ger Llanberis ond fe ymunodd â Chlwb Pêl-droed Y Felinheli fel chwaraewr ym 1999.
Ar ôl cyfnod gyda chlwb pêl-droed Llanberis, dychwelodd i'r Felinheli yn 2012 ond y tro hwn fel rheolwr.
Fe gafodd gêm bêl-droed er cof am Mr Davies ei chwarae ddydd Sul, a dywedodd y clwb y bydd hyn yn ddechrau ar dwrnament blynyddol i gofio amdano.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd CPD Y Felinheli: "Mae hi’n flwyddyn ers colli Euron, felly ddoth criw at ei gilydd i chwarae twrnament i gofio amdano dydd Sul 11.05.25. Mi gododd y clwb £610 a’r arian i gyd yn mynd i Cylch Meithrin Y Felinheli.
"Edrych ymlaen i ddod at ein gilydd eto blwyddyn nesa i gofio am ein ffrind annwyl, Euron."
Cafodd eisteddle cae pêl-droed y pentref ei enwi er cof amdano ym mis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd cyfaill i Mr Davies, ac Ysgrifennydd CPD Y Felinheli, Dylan Owen, wrth Newyddion S4C ym mis Tachwedd fod Mr Davies wedi llwyddo i 'drawsnewid pêl-droed yn lleol'.
"O ran Felin ei hun, na'th pêl-droed jest trawsnewid yn lleol. Ma' genna ni naw tîm ieuenctid, dau dîm genethod a tîm merched yn y pentref erbyn hyn ar ben y tîm dynion," meddai.
"Wedyn ma'r gymuned bêl-droed yn Felinheli jyst 'di mynd o nerth i nerth a 'dach chi'n gweld hynna ar ddydd Sadwrn. Ma' 'na dros 100 yma bron iawn bob w'sos a plant yn gweiddi a ma' lot o hynna i neud efo gweledigaeth Euron o'r dechra'."