Newyddion S4C

'Atgof parhaus': Enwi eisteddle CPD Y Felinheli er cof am Euron Davies

06/11/2024

'Atgof parhaus': Enwi eisteddle CPD Y Felinheli er cof am Euron Davies

"Mae o jyst yn fitting rili bo' ni'n rhoi enw Euron ar y stand a jyst yn atgof parhaus."

Fe fydd eisteddle CPD Y Felinheli yn cael ei enwi er cof am Euron Davies, cyn-reolwr y clwb, fu farw yn sydyn yn 46 oed ym mis Mai eleni.  

Roedd Euron yn byw gyda'i deulu yng Nghwm-y-glo ger Llanberis ond fe ymunodd â Chlwb Pêl-droed Y Felinheli fel chwaraewr ym 1999.

Ar ôl cyfnod gyda chlwb pêl-droed Llanberis, dychwelodd i'r Felinheli yn 2012 ond y tro hwn fel rheolwr.

Fe fydd eisteddle cae pêl-droed y pentref yn cael ei enwi er cof amdano, ac yn cael ei agor yn swyddogol ar 16 Tachwedd.

Dywedodd cyfaill i Euron, ac Ysgrifennydd CPD Y Felinheli, Dylan Owen, wrth Newyddion S4C bod pawb wedi cefnogi ei gilydd ers iddo farw.

"Pêl-droed a pobl nath helpu ni, helpu pawb, dim dowt.

"Er oedd o'n teimlo'n rhyfedd a teimlo fatha ddylia ni fyth wedi bod yn chwara, o'dd teulu Euron yn deud 'Fydd rhaid i chi chwara, dyna 'sa Dad isio' ag oedd hynna yn helpu ni. Fyswn i'n licio meddwl bod ni'n chwara ffwtbol wedi helpu nhw a bod ni gyd wedi gallu helpu'n gilydd.

"Ond dim dowt, na'th y gymuned bêl-droed ddod at ei gilydd i gyd, yn enwedig yn lleol, a na'th hynna helpu lot 'swn i'n deud ar bawb."

Image
Euron Davies
Ymunodd Euron â Chlwb Pêl-droed Y Felinheli fel chwaraewr ym 1999.

Llwyddodd Euron i "drawsnewid pêl-droed yn lleol" yn ôl Dylan.

"O ran Felin ei hun, na'th pêl-droed jest trawsnewid yn lleol. Ma' genna ni naw tîm ieuenctid, dau dîm genethod a tîm merched yn y pentref erbyn hyn ar ben y tîm dynion," meddai.

"Wedyn ma'r gymuned bêl-droed yn Felinheli jyst 'di mynd o nerth i nerth a 'dach chi'n gweld hynna ar ddydd Sadwrn. Ma' 'na dros 100 yma bron iawn bob w'sos a plant yn gweiddi a ma' lot o hynna i neud efo  gweledigaeth Euron o'r dechra'."

Mae'n bwysig i genedlaethau’r dyfodol wybod am ddylanwad Euron yn ôl Dylan.

"Ma'r stand 'di cael ei adeiladu ers 2019 ond heb 'di rhoi enw arna fo. Yn amlwg, oeddan ni'n meddwl rhyw ben i roid enw arna fo ag oedd o jyst yn amlwg mai dyma oeddan ni'n mynd i orfod galw fo wedyn," meddai.

"O'dd Euron yn rhan mawr o gael y clwb i'r haen yma o bêl-droed a dyna pam natho ni gael stand yn y lle cyntaf. 

"Mae o wedi neud gymaint i bêl-droed yn Y Felinheli, mae'n anodd rhoi marc arna fo - mae o mor fawr. Dwi'n meddwl bod o'n bwysig i bawb, hyd yn oed y rhai sy'n dod drwadd wan sydd ddim yn cofio Euron, bo' nhw'n mynd i weld y stand a gofyn y cwestiwn 'Pam ma' enw Euron ar y stand?' a wedyn geith pobl gario'r stori yn ôl a deud pam."

Image
Euron
Bydd eisteddle yn cael ei enwi er cof amdano, ac fe fydd yn agor yn swyddogol ar 16 Tachwedd.

Mae siarad wedi bod o gymorth i'r gymuned bêl-droed leol wrth fynd i'r afael â'r golled.

"Oeddan ni'n siarad amdana fo jyst yn naturiol ac yn amlwg jyst yn cofio'r dywediadau o'dd o'n ddeud a be o'dd o'n ddeud wrtha ni cyn bob gêm. Dwi'n meddwl bod hynny wedi helpu lot ag yn amlwg, ma'n bwysig yn enwedig dyddia yma efo iechyd meddwl," meddai Dylan. 

"Gatho ni sgwrs digwydd bod yn y stand yma ryw bythefnos ar ôl yr angladd o ran y ffordd ymlaen er 'dd hynny yn anodd hefyd ond gan bod yr hogia i gyd efo'i gilydd, dim ond un ffordd oedd ymlaen a ffordd yr hogia a ffordd Euron oedd hynna."

Fe fydd Y Felinheli yn wynebu Cei Connah gartref ar 16 Tachwedd, ac fe fydd yr eisteddle yn cael ei enwi yn swyddogol er cof am Euron ar y dyddiad yma. 

"Fydd o'n un o'r achlysuron cyntaf i gofio am Euron, ond yn sicr ddim y dwythaf," meddai Dylan.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.