Newyddion S4C

Ceredigion: Gwrthod cais i droi hen ysgol Pontsian yn dŷ

Pontsian

Mae cais cynllunio i droi hen ysgol bentref yng Ngheredigion yn gartref wedi ei wrthod gan bwyllgor cynllunio'r sir.

Roedd cais blaenorol ar safle hen ysgol gynradd Pontsian oedd wedi ei gymeradwyo ynghynt bellach wedi dirwyn i ben.

Gofynnodd Carole Humphreys am ganiatâd i newid defnydd hen Ysgol Gynradd Pontsian ger Llandysul i un tŷ, gyda gwaith cysylltiedig.

Arferai’r safle gael ei ddefnyddio fel ysgol gynradd cyn cau yn 2016, ac roedd wedi cael caniatâd yn 2018 i newid defnydd yr adeilad i dŷ pedair ystafell wely.

Daeth cyfnod y cais hwnnw i ben cyn i’r gwaith ddechrau.

Cafodd yr ysgol ei chau fel rhan o ad-drefnu addysg yn ehangach yn Nyffryn Teifi a arweiniodd at gau Ysgol Gynradd Pontsian a chreu ysgol ranbarthol newydd Ysgol Bro Teifi.

Ailgyflwyno cais

Roedd y cais diweddaraf yn gofyn am ganiatâd i ailgyflwyno manylion ar ôl i gais Tystysgrif Cyfreithlondeb a wnaed yn 2023 gael ei wrthod.

Dywedodd datganiad oedd yn rhan o'r cais diweddaraf: “Gwnaethpwyd cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon mewn ymgais i gadw’r caniatâd yn ‘fyw’ ar y safle gan fod y cleient wedi dechrau’r broses o gael gwared ar nodweddion mewnol yr eiddo, i ddechrau’r newid i annedd. 

"Yn anffodus, ni phenderfynwyd bod y gwaith hwn yn ddigon sylweddol i briodoli cychwyn ar y datblygiad.

“Felly mae’r safle fel y mae ar hyn o bryd wedi’i gadw yn safle sydd ddim yn ysgol nac annedd... oherwydd gan na allai’r gwaith symud yn ei flaen pan benderfynwyd ei wrthod. Gan wneud canlyniad y cais hwn yn hynod bwysig ar gyfer ailddefnyddio a chynnal a chadw’r adeilad.”

Gwrthodwyd y cais gan y byddai’n arwain at “dŷ marchnad agored o fewn lleoliad anghynaliadwy” ac “nid yw’n cynnwys cyfraniad tuag at dai fforddiadwy, ac nid oes asesiad hyfywedd manwl wedi’i gyflwyno i ddangos y byddai cyfraniad o’r fath yn anhyfyw."

Roedd hefyd "ddiffyg cynllun tirlunio manwl a Datganiad Seilwaith Gwyrdd", pryderon ynghylch draenio dŵr budr, a diffyg gwybodaeth am unrhyw effaith ar Afon Teifi.

 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.