Cynnydd ‘enfawr’ yn nifer y pensiynwyr sy’n dwyn o siopau
Mae siopau bwyd wedi gweld cynnydd “enfawr” yn nifer y pensiynwyr sy’n dwyn dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd pwysau costau byw yn ôl cwmni diogelwch.
Dywedodd John Nussbaum o gwmni Kingdom Security, fod ei staff yn gweld “math gwahanol o siopladron nawr” wrth i gostau byw “wthio pobl i rywbeth nad ydyn nhw erioed wedi’i wneud o’r blaen”.
Mae’r cwmni yn darparu gwasanaethau diogelwch ar gyfer cannoedd o siopau yn y DU, gan gynnwys archfarchnadoedd.
Dywedodd: “Rydyn ni wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y pensiynwyr sy'n dwyn o siopau, yn rhoi jar o goffi yn eu bag ac un yn y troli, y math yna o beth.
“I ni dros y 12 mis diwethaf, mae gennym ni lefel wahanol o droseddu nawr gyda phensiynwyr, pobl sydd ddim fel arfer yn dwyn o siopau.
“Rydyn ni wedi cael achosion o famau’n cael eu dal yn dwyn o siopau pan maen nhw gyda’u plant.
“Rydyn ni wedi arfer gweld y gangiau trefnus, dyna’r norm, ond mae’r mathau o bobl sy’n cael eu dal nawr wedi newid.”
Ychwanegodd: “Nid yw manwerthwyr yn dueddol o alw’r heddlu pan maen nhw'n delio â phensiynwyr. Mae siopau yn tueddu i fod eisiau delio ag ef ar eu pen eu hunain."
Mae ffigurau diweddar gan y Swyddfa Ystadegau gwladol (ONS) yn nodi bod nifer y troseddau dwyn o siopau a gofnodwyd gan heddluoedd Cymru a Lloegr mewn blwyddyn wedi codi i dros hanner miliwn am y tro cyntaf.
Cofnodwyd cyfanswm o 516,971 o droseddau gan heddluoedd yn 2024, i fyny 20% o 429,873 yn 2023.
Mae troseddau dwyn o siopau wedi bod ar y lefelau uchaf erioed am y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae yna “gynnydd sydyn” wedi bod ers pandemig Covid-19, meddai’r ONS.
Mae mwy o gwmnïau nawr yn defnyddio technoleg adnabod wynebau yn eu hymgyrch i geisio mynd i’r afael â dwyn o’u siopau meddai Mr Nussbaum.